Nid Parc Cenedlaethol arferol ‘mo Arfordir Penfro. Mae’n arfordirol i ddechrau!
Fel un o dri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru a phymtheg ar draws y DU, dyma’r unig un sy’n bodoli’n bennaf oherwydd ei arfordir. Mae hefyd wedi’i rannu’n bedwar rhan, pob un gyda’i nodweddion unigryw ei hun – perffaith er mwyn darganfod wrth i ni groesawu tymor newydd y gwanwyn.
P’un ai mwynhau milltiroedd o draethau euraid sydd gennych mewn golwg, neu gerdded llwybrau i edrych i lawr ar y tonnau, mae gan Arfordir Penfro 186 milltir o olygfeydd arfordirol, yn amrywio o greigiau folcanig ysgithrog yn y gogledd i glogwyni calch uchel yn y de.
P’un ai’n mwynhau seibiant byr ar hyd yr arfordir y gwanwyn hwn, neu ond yn chwilio am ddiwrnod allan yn lleol, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn rhannu 7 peth i’w gwneud dros y misoedd *croesi bysedd* cynhesach.
1. Gweld y Parc Cenedlaethol ar ddwy olwyn
Er bod Arfordir Penfro’n un o’r Parciau Cenedlaethol lleiaf yn y DU, mae llawer mwy i’w ddarganfod nag y meddyliwch! Felly i’ch helpu i fynd o A i B yn gynt – a threchu bryniau serth yr ardal (gwyddom eich bod wrth eich bodd yn meddwl am bedalau trydan!) — bydd ein e-feics yn ateb y pwrpas.
Wedi eu lleoli yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, bydd beics trydan cyffyrddus a llawn steil yn barod i chi eu llogi. Gyda fframiau camu trwodd a basged ar y blaen, maen nhw’n ateb gofynion ymarferol a hawdd i’w defnyddio. Felly beth am bacio’r picnic a mynd ar antur – ac antur gynaliadwy at hynny!
Bydd reidio beic ar hyd Arfordir Penfro bob tro’n cyfuno canrifoedd o hanes gyda diwylliant a golygfeydd ysblennydd ein gwlad – ond mae hefyd yn lleihau tagfeydd traffig ac allyriadau carbon. Ond mae diogelwch yn allweddol bwysig felly cofiwch ddod â’ch helmed o gartre’.
2. Cael eich ysbrydoli gan y genhedlaeth nesaf o artistiaid
Dewch i ymgolli yn nhirlun Cymru drwy lygaid artistiaid; gweld hanes lleol yn dod yn fyw drwy liw, a thanio eich dychymyg wrth i chi fynd o gwmpas un o’r nifer o arddangosfeydd yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc.
Dim ond tafliad carreg o Gadeirlan Tyddewi a thraethau hyfryd, mae’r ganolfan yn rhad ac am ddim i fynd i mewn ac yn cynnwys rhaglen amrywiol o arddangosfeydd gan Amgueddfa Cymru, ac artistiaid lleol, yn ogystal ag ardal bicnic, caffi a siop.
3. Ymweld â dinas leiaf y DU – oddi mewn i’r Parc Cenedlaethol!
Gyda phoblogaeth o ychydig dros 1,700 o bobl, mae Tyddewi yn ymfalchïo mewn bod y ddinas leiaf ym Mhrydain – ond er yn fach, mae ei thirluniau godidog, ei hanes a’i danteithion blasus yn fwy na gwneud iawn am hynny.
Ar ôl mwynhau celfyddyd a diwylliant yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, gall ymwelwyr ymgolli yng ngolygfeydd garw, ysblennydd Llwybr Arfordir Penfro. Wrth fynd am dro ar hyd llwybr arfordirol Penmaen Dewi, sy’n 5 milltir o hyd, gallwch ddisgwyl gweld myrdd o fân ynysoedd, amrywiaeth o fywyd gwyllt rhyfeddol ac amryw o henebion cynhanesyddol – gan gynnwys Coetan Arthur, gweddillion siambr gladdu Neolithig.
Mae un peth yn sicr – ni fyddwch byth yn brin o rywle i gymryd yr ‘hun-lun’ perffaith yn Nhyddewi!
4. Profi bywyd Oes yr Haearn
Beth am fynd ar antur gynhanesyddol ddigyffelyb i weld nid yn unig sut beth oedd bywyd i lwyth hynafol y Demetae a arferai â byw yn y gornel hon o Gymru dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl – ond hefyd i’w brofi drwy eich synhwyrau!
Gallwch gyfarfod â phentrefwyr cyfeillgar Oes yr Haearn, gweld eu sgiliau a’u crefftau a dysgu sut yr oedden nhw’n byw’n gynaliadwy ac mewn cytgord â’r tir.
Mae pentref Oes Haearn Castell Henllys yn dod â’r hanes yn fyw. O hud a lledrith y derwyddon, lle y dysgwch sut i gynnau tân a gwneud bara, i weithdai brethyn cynhanesyddol – y gwanwyn hwn gall y teulu i gyd weld sut yr oedd pobl yn byw yn Oes yr Haearn yng Nghymru.
5. Ymdrochi yn nŵr un o draethau Baner Las Sir Benfro
Wyddoch chi fod gan Sir Benfro fwy o draethau Baner Las na’r un sir arall yng Nghymru? Ond nid llefydd i fynd â bwced a rhaw’n unig ydy’r rhain, na wir – o chwaraeon dŵr i wylio bywyd gwyllt, mae yma rywbeth i bawb ei fwynhau.
Os ydych yn chwilio am fynediad hwylus, mae gan Saundersfoot lithrfa goncrid i fynd â chi lawr i ddŵr bas – perffaith i drochi traed. Gallwch hyd yn oed logi cadair olwyn am ddim os oes angen.
Neu efallai eich bod yn awyddus i weld bywyd morol hynod y Parc Cenedlaethol? Os felly, gallwch ddarganfod ein hamrywiaeth o byllau glan môr sy’n orlawn o bob math o greaduriaid rhyfeddol a hynod. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer sut i wneud y mwyaf o chwilota pyllau glan môr:
- Os trowch y creigiau drosodd, rhowch nhw’n ôl yn yr un lle.
- Gadewch y creaduriaid lle y cawsoch nhw – maen nhw’n llawer hapusach yn eu cartrefi eu hunain.
- Gall creigiau a gwymon fod yn llithrig iawn – pwyll piau hi.
- Amseroedd llanw – gwell mynd i chwilota pyllau glan môr ar lanw isel.
- Cofiwch y gall y llanw ddod i mewn yn sydyn – ac na fydd yn eich rhwystro rhag gadael.
Sut bynnag yr ydych yn hoffi mwynhau’r dŵr, cofiwch aros yn ddiogel – drwy ddilyn canllawiau diogelwch traeth yr RNLI neu fod yn ofalus ar y clogwyni o gwmpas y Parc Cenedlaethol. Mae cyfnodau o law trwm yn effeithio ar sadrwydd y clogwyni, felly cofiwch gadw’n ddigon pell o’r creigiau neu ymyl yr arfordir.
6. Camu mewn i Gymru’r canoloesoedd wrth ymweld ag Atyniad Ymwelwyr y Flwyddyn
Gydag ystod o ddigwyddiadau i’r teulu ar gael dros Hanner Tymor Mis Mai, gall ymwelwyr i Gastell Caeriw glywed hanesion erchyll o orffennol Sir Benfro; mentro i’r ysgol gleddyfau; gweld gwersyll canoloesol; a hyd yn oed dysgu sut i wneud past dannedd o rysáit perlysieuol hen iawn!
Ond nid dim ond plant a charedigion hanes fydd yn mwynhau’r safle. Bellach yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig – oherwydd ei ystlumod a’i blanhigion prin – mae Castell Caeriw hefyd yn lle gwych i rai sy’n hoffi bywyd gwyllt.
Wrth i chi fynd o gwmpas y castell, cofiwch gadw llygad allan am ei amrywiaeth o fywyd gwyllt – heb sôn am yr ysbrydion sy’n byw yno….tybed welwch chi gip ar y Ladi Wen neu’r Epa Barbari?
7. Beth am ymweld â’r ynysoedd?
Os oes gennych ychydig yn fwy o amser ac yn awyddus i weld mwy o’r ardal o gwmpas y Parc Cenedlaethol, yna mae digon yma – mae gan yr ynysoedd oddi ar arfordir y Gogledd i gyd eu cymeriad, bywyd gwyllt a’u rhin unigryw yn aros amdanoch.
O’r haid enwog o Adar Pâl ar Ynys Sgomer i weld llamhidyddion yn tyrru i fwydo ar Ynys Gwales, gallwn eich sicrhau os ewch ar un o’r tripiau cychod o gwmpas yr ynysoedd, y byddwch yn creu atgofion hudolus i bara am byth.
Am fwy o wybodaeth ac i gynllunio eich antur nesaf, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro neu drwy ddilyn @arfordirpenfro ar Facebook, X ac Instagram.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle