Mae bobl yng Nghymru ddweud eu bod yn rhy oer, rhy brysur a rhy flinedig i ymarfer yn rheolaidd

0
108

DATA AROLWG NEWYDD: Elusen yn lansio ymgyrch mudiad iechyd meddwl wrth i bobl yng Nghymru ddweud eu bod yn rhy oer, rhy brysur a rhy flinedig i ymarfer yn rheolaidd

  • Yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae pobl yn cael eu hannog i symud mwy er lles ein hiechyd meddwl drwy’r #CyfleoeddSymud

Lansiodd y Sefydliad Iechyd Meddwl yr ymgyrch #CyfleoeddSymud wrth i ddata o arolwg diweddar a gyhoeddwyd heddiw ddangos bod y tywydd, blinder, a phrysurdeb yn y gwaith neu mewn byd addysg yn atal llawer o bobl yng Nghymru rhag cael y buddion iechyd meddwl a ddaw gydag ymarfer corff. 

Er gwaetha’r ffaith bod 82% o oedolion Cymru’n cydnabod pwysigrwydd ymarfer corff o ran iechyd meddwl a llesiant, mae llawer yn ei chael hi’n anodd bod yn actif. Pan holwyd hwy am wythnos gyffredin, dywedodd traean ohonynt (32%) bod y tywydd yn eu hatal, tri o bob deg (31%) eu bod yn rhy flinedig neu â diffyg egni, ac un o bob pump (21%) yn dweud eu bod yn rhy brysur yn y gwaith neu gydag astudiaethau.

Dim ond un o bob pump (21%) o’r rhai a holwyd ddywedodd eu bod yn hapus gyda faint o ymarfer corff roeddynt yn ei wneud mewn wythnos gyffredin.

Cynhaliwyd arolwg o 987 o oedolion yng Nghymru gan Opinium* ar ran y Sefydliad Iechyd Meddwl. Trafodir y canfyddiadau ynghyd â mewnwelediadau gan grwpiau ffocws a gynhaliwyd ledled y DU yn adroddiad yr elusen Moving more is good for our mental health.  So, what’s stopping us?’ a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Dywedodd Pennaeth y Sefydliad Iechyd Meddwl, Jemma Wray: “Mae llawer o rwystrau rhag symud a gwneud ymarfer corff i gynorthwyo iechyd meddwl da yn wynebu pobl ledled Cymru.  Gall heriau ein bywyd bob dydd megis gwaith, addysg, cyfrifoldebau gofal, a thalu’r biliau ein llethu a gall y syniad o wneud ymarfer corff deimlo fel gormod o waith. 

“Mae wedi cael ei brofi bod symud ein cyrff yn rheolaidd yn cynorthwyo iechyd meddwl da, a hyd yn oed yn fwy os ydym yn teimlo’n isel neu heb lawer o egni. Dyna pam ein bod yn annog pobl yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl i ddod o hyd i’r #CyfleoeddSymud gyda gweithgaredd maent yn ei fwynhau.

“Gwelwyd yn ein hymchwil fod y rhwystrau rhag symud yn cynyddu hyd yn oed yn fwy i bobl ag anabledd, i rieni a phobl ifanc.  Mae nodi’r rhwystrau hyn yn gam cyntaf pwysig ond rydym eisiau defnyddio’r Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl i weld sut allwn fynd i’r afael â nhw. Rydym eisiau gofyn sut allwn ni gynorthwyo ein gilydd i gyflwyno mwy o symud yn ein bywydau.” 

Mae’r elusen yn annog miliynau o bobl i ddod o hyd i’r #CyfleoeddSymud yn eu bywydau bob dydd yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.  Fel rhan o’r ymgyrch, mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn rhannu awgrymiadau i helpu pobl symud fwy a chynyddu buddion iechyd meddwl y symud hwnnw. Bydd llawer o weithgareddau Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn cael eu cynnal ledled y DU gyda llawer o ysgolion, gweithleoedd a grwpiau cymunedol yn cymryd rhan.  Mae pobl yn cael eu hannog i rannu beth maent yn ei wneud ar y cyfryngau cymdeithasol fel rhan o’r sgwrs #MentalHealthAwarenessWeek gan ysbrydoli eraill i gymryd rhan.

Am ragor o wybodaeth am yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ewch i www.mentalhealth.org.uk/maw

Wales Key Points WELSH


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle