Canolbwynt gwirfoddolwyr yng Nghaerfyrddin yn ailagor yn dilyn prosiect adnewyddu llwyddiannus

0
181
Capsiwn: Miss Sara Edwards, Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi yn Nyfed, yn ailagor yn swyddogol yr adeilad yng Nghaerfyrddin.

Dathlodd Is-adran St John Ambulance Cymru yng Nghaerfyrddin ailagoriad swyddogol ei hadeilad yn y dref ar ddiwedd mis Ebrill, yn dilyn prosiect adnewyddu helaeth.

Ariannwyd y gwaith adnewyddu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU, sy’n buddsoddi mewn prosiectau ar gyfer pobl leol a busnesau lleol ledled y wlad, i helpu i dyfu’r economi, creu swyddi, gwella trafnidiaeth a darparu hyfforddiant sgiliau a chymorth i fusnesau lleol.

 Mae Is-adran St John Ambulance Cymru yng Nghaerfyrddin yn ganolbwynt hollbwysig ar gyfer gweithgareddau gwirfoddol. Dyma le mae oedolion, plant a gwirfoddolwyr ifanc yn cwrdd ag yn hyfforddi, a lle cynhelir arddangosiadau cymorth cyntaf ar gyfer grwpiau cymunedol a’r cyhoedd.

Mae’r adeilad hefyd ar gael i’r cyhoedd ei logi ar gyfer digwyddiadau untro, yn ogystal ag ar gyfer cyfarfodydd grŵp cymunedol rheolaidd. Mae gwirfoddolwyr yn annog pobl Caerfyrddin i estyn allan drwy e-bost at james.cordell@dyfedcounty.sjaw.org.uk os oes ganddynt ddiddordeb mewn defnyddio’r adeilad sydd newydd ei adnewyddu.

Mae’r prosiect wedi moderneiddio cyfleusterau TG a man cyfarfod yr adeilad, a hefyd wedi ariannu diffibriliwr cyhoeddus newydd, deunyddiau newydd ar gyfer plant ac aelodau ifanc ac wedi sybsideiddio gwisgoedd. Bydd hyn yn lleihau rhwystrau allweddol i gyfranogiad gwirfoddolwyr, yn ogystal â darparu offer i wirfoddolwyr sydd yn gallu achub bywydau.

Capsiwn: Miss Sara Edwards, Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi yn Nyfed, yn ailagor yn swyddogol yr adeilad yng Nghaerfyrddin.

Mae St John Ambulance Cymru yn darparu gwasanaethau hanfodol i bobl Caerfyrddin, trwy hyfforddiant a thriniaeth cymorth cyntaf. Bydd y prosiect adnewyddu yn chwarae rhan enfawr wrth gynnal y gwasanaethau hanfodol hyn a bydd yn helpu’r gwirfoddolwyr i barhau â’n cenhadaeth o sicrhau bod cymorth cyntaf ar gael i bawb, unrhyw bryd, unrhyw le.

Yn y seremoni, a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn 27 Ebrill, ail-agorwyd yr adeilad yn swyddogol i’r cyhoedd gan Miss Sara Edwards, Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi yn Nyfed. Bu oedolion, plant ac ieuenctid sy’n wirfoddolwyr i’r elusen yn cyfarch aelodau hŷn yr elusen, ynghyd ag aelodau o’r gymuned ehangach i ddathlu diwedd y prosiect.

“Mae’r trawsnewidiad yn yr adeilad wedi bod yn anhygoel, ac mae gweld y cynnydd a’r gwelliannau bob wythnos yn ystod y gwaith adnewyddu wedi bod yn arbennig iawn,” meddai James Cordell, Dirprwy Gomisiynydd Gwirfoddol Sir Dyfed.

“Bydd y cyfleuster ar ei newydd wedd, gydag offer newydd a gwedd fodern, yn darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned a gwirfoddoli, wrth wella lles y gymuned ehangach trwy fynediad at gyfleusterau gwell a diogel.

 

“Rydym yn gobeithio y bydd llawer o wirfoddolwyr newydd yn ymuno â St John Ambulance Cymru yng Nghaerfyrddin ac yn gwneud defnydd gwych o’r adeilad gwych hwn.”

 

Mae St John Ambulance Cymru wedi estyn eu diolch i bawb yn Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU am eu cymorth drwy gydol y prosiect, ac mae’n annog y gymuned ehangach i estyn allan os oes ganddynt ddiddordeb mewn ymuno a Is-adran Caerfyrddin fel gwirfoddolwr.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddod yn wirfoddolwr gyda’r elusen drwy fynd i: www.sjacymru.org.uk/en/page/volunteer.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle