Ysgolion Sir Benfro yn cyrraedd carreg filltir ar gyfer gwobr gyrfaoedd

0
234
Pupils from Ysgol Garth Olwg in a careers session with Bute Energy WALES NEWS SERVICE

Mae 28 o ysgolion yng Nghymru wedi cwblhau cam cyntaf Gwobr Ansawdd newydd Gyrfa Cymru yn llwyddiannus, gan gynnwys Canolfan Ddysgu Sir Benfro.

Mae’r wobr yn cynorthwyo ysgolion a lleoliadau sydd â dysgwyr tair oed i 16 oed i ddatblygu addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith (CWRE) pwrpasol a pherthnasol ar draws y cwricwlwm.

Mae’r ysgolion yn cymryd rhan ym mheilot y wobr newydd, ac yn gweithio’n agos gyda chydlynwyr cwricwlwm ymroddedig o Gyrfa Cymru i ddatblygu model gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith sy’n gweithio orau i ysgol benodol a’i disgyblion.

Y cam hwn yw’r cyntaf o dri cham, pob un â ffocws gwahanol. Mae’r cam hwn yn dwyn yr enw ‘arweinyddiaeth’ ac mae’n sail ar gyfer datblygiad parhaus gofynnol yr hyn y mae disgyblion yn ei ddysgu am yrfaoedd.

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg:

“Da iawn i’r holl ysgolion sy’n cymryd rhan am eu hymrwymiad i gyfleoedd gyrfa a chyfleoedd cysylltiedig â byd gwaith eu disgyblion yn y dyfodol.

 “Mae mor bwysig i blant a phobl ifanc ddysgu am y gwahanol lwybrau sydd ar gael iddynt er mwyn hwyluso’r cyfnod pontio rhwng addysg a chyflogaeth lwyddiannus, a bydd cynllun gweithredu profiadau cysylltiedig â gwaith pob ysgol yn cynorthwyo’r datblygiad parhaus hwn.

 “Rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i helpu ein plant a’n pobl ifanc i gyflawni eu llawn botensial. Trwy ddatblygu profiadau cysylltiedig â byd gwaith ar draws y cwricwlwm gall ein hysgolion gynorthwyo eu dysgwyr i fynd ymlaen i chwarae eu rhan lawn yn ein heconomi a’n cymdeithas.”

Pupils from Ysgol Garth Olwg in a careers session with Bute Energy WALES NEWS SERVICE

 Fel rhan o’r cam arweinyddiaeth, mae’r ysgolion wedi gweithio’n agos gyda Gyrfa Cymru i greu cynllun gweithredu, gweledigaeth a strategaeth ar gyfer gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith, ac wedi cynllunio ar gyfer monitro ac adolygu’r gweithgaredd hwn yn rheolaidd.

Mae’r cam hwn hefyd wedi gweld yr ysgol yn nodi’r rolau y mae eu hangen i hwyluso’r gwaith o ddatblygu gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn effeithiol ac ymrwymo i ddyrannu adnoddau digonol.

Dywedodd Jo Thomas, Athro â Chyfrifoldeb yng Nghanolfan Ddysgu Sir Benfro: “Mae’r wobr wedi ein helpu’n aruthrol ac wedi ein galluogi i ddatblygu arferion gorau o fewn Canolfan Ddysgu Sir Benfro. Mae gennym bellach bolisi cadarn ar waith, gyda nodau clir o ran ehangder Addysg Gyrfaoedd.

 “Trwy wneud y Wobr Ansawdd, rydym yn dechrau ymgorffori gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn ein cwricwlwm mewn ffordd sy’n cynnwys pob disgybl.”

 Dywedodd Nikki Lawrence, Prif Weithredydd Gyrfa Cymru: “Llongyfarchiadau mawr i’r holl ysgolion sydd wedi cwblhau cam arweinyddiaeth Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru.

 “Mae ymrwymiad pob ysgol i’r wobr yn dangos ei hymroddiad parhaus i ddarparu addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith o safon uchel i’w disgyblion. 

“Mae cymorth gyrfaoedd o safon yn arfogi pobl ifanc â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r adnoddau hanfodol i lwyddo, yn ogystal â bod o fudd i’r gymuned leol a’r economi yng Nghymru gyda gweithlu galluog, hyderus a llawn cymhelliant yn y dyfodol. 

“Rydym yn edrych ymlaen at fynd drwy’r broses wobrwyo ochr yn ochr â’r ysgolion sy’n cymryd rhan. Gyda’n gilydd, byddwn yn cyflawni ein hamcan cyffredin i rymuso disgyblion â’r gallu i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol a chymryd camau tuag at lwyddiant.”

Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus, mae’r wobr wedi’i chynllunio i’w lansio’n genedlaethol ledled Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y wobr, ewch i dudalen we Peilot Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle