Neuadd farchnad ‘agored i niwed’ wedi’i hadnewyddu ac yn cael ei defnyddio unwaith eto

0
157
JJ_Market Halls

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, Julie James, wedi ymweld ag adeilad rhestredig Gradd II yr Hen Farchnad yn Llandeilo.

JJ_Market Halls

Roedd y farchnad yn rhan allweddol o hanes Llandeilo cyn iddi fynd yn segur a chyn i’w chyflwr ddirywio.

Cafodd ei rhoi ar y ‘gofrestr adeiladau mewn perygl’ ar ôl cael ei chategoreiddio’n agored i niwed yn 2007.

JJ_Market Halls

Erbyn hyn, nid oes unrhyw ôl o’r adeilad ‘bregus’ hwnnw, gan fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi rhoi bywyd newydd i’r farchnad eiconig a’i hadnewyddu’n llwyr, gan ddod â chyfleoedd cyflogaeth a gofod ar gyfer cynnal digwyddiadau i galon y dref.

Cefnogwyd y cynllun adnewyddu gan £1.7 miliwn o Gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a oedd hefyd yn cynnwys cyllid o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

JJ_Market Halls

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: “Mae’n wych gweld ein bod, drwy’n rhaglen Trawsnewid Trefi, wedi gallu helpu i adnewyddu’r Hen Farchnad.

JJ_Market Halls

“Yn ogystal â sicrhau bod modd i adeilad segur, oedd wedi mynd â’i ben iddo, gael ei ddefnyddio unwaith eto, mae’r prosiect hwn hefyd wedi creu swyddi a chyfleoedd hyfforddi, ac mae bellach yn denu ymwelwyr a phobl leol i ganol y dref.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle