“MAE ANGEN ADDYSG WLEIDYDDOL AR BOBL IFANC NID GWASANAETH CENEDLAETHOL” – SIONED WILLIAMS AS

0
147
Sioned Williams AS/MS Plaid Cymru - The Party of Wales

Y Senedd yn cefnogi galwad am addysg wleidyddol yn ysgolion Cymru

Mae’r Senedd wedi pleidleisio o blaid cynnig am Fesur Addysg Wleidyddol mewn ysgolion a cholegau, gafodd ei gyflwyno gan Aelod Senedd Plaid Cymru Sioned Williams.

Dywedodd Ms Williams bod “cyfle wedi’i golli” yn y cwricwlwm newydd, a gyflwynwyd ar yr un pryd hoi’r bleidlais i bobl ifanc 16-17 yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn cael addysg glir a chyson ar wleidyddiaeth a’r broses ddemocrataidd.

Gyda’r Senedd wedi pasio diwygiadau etholiadol hanesyddol yn ddiweddar, dywed Ms Williams ei bod yn “amserol, hanfodol ac yn hen bryd” i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael 8217;r ffaith bod y nifer sy’n pleidleisio yn gyson is na hanner cyfanswm yr etholwyr yng Nghymru ar gyfer etholiadau’r Senedd, a chredir mai dim ond hanner y bobl ifanc 16-17 oed oedd wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd yn 2021.

Roedd cynnig Ms Williams ar gyfer Bil Addysg Wleidyddol yn:

  1. sicrhau bod addysg benodol yn ymwneud wleidyddiaeth a democratiaeth Cymru yn cael ei darparu;
  2. ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol sicrhau bod dysgwyr yn deall pwysigrwydd ymgysylltu dinesig; a
  3. sicrhau bod pobl ifanc 16 ac 17 oed yn teimlo’n fwy hyderus a gwybodus am etholiadau a’r pwrpas a’r broses o fwrw eu pleidlais.

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:

“Mae Cymru wedi dangos y gall arwain y ffordd o ran democratiaeth – hi fydd y wlad gyntaf yn y DU i symud yn gyfan gwbl at ddefnyddio dull cyfrannol i ethol aelodau i’w Senedd, ac rydym eisoes wedi sicrhau pleidleisiau i bobl ifanc un ar bymtheg a dwy ar bymtheg oed yn etholiadau Cymru.

“Ond mae yna un ffactor sy’n ein dal ni’n ��a dyna’r nifer sy’n pleidleisio, yn enwedig o blith pobol ifanc. Os ydym yn credu mewn sicrhau’r ddemocratiaeth orau bosibl i Gymru, ni allwn eistedd yn �� derbyn bod nifer y bobl sy’n pleidleisio i ddewis eu cynrychiolwyr yn y Senedd hon yn gyson yn llai na hanner cyfanswm etholwyr Cymru.

“Mae angen i ni weithredu i newid hynny. A dyna beth a’m hysgogodd i gyflwyno’r cynnig hwn gerbron y Senedd, yn dilyn deisebau, adroddiadau a phryderon a godwyd gan bobl ifanc eu hunain bod diffyg ymwybyddiaeth o wleidyddiaeth a’r broses ddemocrataidd.

“Rwyf mor falch bod fy nghynnig wedi ennill cefnogaeth y Senedd, er yn siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi ymatal. Mae’n amserol, yn hanfodol ac yn hen bryd i’r llywodraeth wrando ar y galwadau hyn a gweithredu arnynt, a thrwy’r system addysg y mae’r ffordd orau o wneud hyn.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle