Mae digwyddiadau cymunedol CAVS trwy gydol Wythnos Gwirfoddolwyr eleni yn cefnogi ymgyrch âRydym Gyda Chiâ. Fel ymgyrch denu gwirfoddolwyr, maeân ffordd o godi proffil gwirfoddoli ledled Sir Gaerfyrddin, ac eiriol dros bobl gyffredin, cymunedau ac elusennau/grwpiau lleol. Mae hon yn berthynas ddeinamig rhwng rhannau hollbwysig syân cyfuno i gefnogiâr sir gyfan.
Dechreuodd yr ymgyrch, a lansiwyd ar ddiwedd 2023, gyda chalendr adfent 26-diwrnod sydd iâw weld ar Lwyfan Cysylltu Sir Gâr <https://connectcarmarthenshire.org.uk/campaign/we-are-with-you> a gwefan CAVS <https://cavs.org.uk/volunteering/celebrating-volunteering/we-are-with-you/>: rhannwyd syniadau am anrhegion Nadolig am brisiau rhesymol ynghyd â chlip digidol gan wirfoddolwyr oedd yn siarad am y pethau syân bwysig iddyn nhw, sut maen nhwân cynnig help iâw cymunedau aâr elusen/grĹľp yr oeddent wedi dewis eu cefnogi.
“Mae gwirfoddoli yn cryfhauâr hyn sydd gennym yn barod â ein cryfderau aân galluoedd sylfaenol, ein diddordebau aân syniadau, ein gwybodaeth aâr pethau syân mynd âân bryd. Mae gwirfoddoli yn cefnogi ein hymdeimlad o gymuned, ein teyrngarwch i gyfeillion a chymdogion ac maeân defnyddioâr peth mwyaf sydd gennym, sef âamserâ i gryfhau ac ychwanegu at y dyheadau hynâ, meddai Jamie Horton, Swyddog Datblygu Gwirfoddoli Cymunedol gyda CAVS.
âRwyf wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid Cysylltu Sir Gâr i ddangos sut all gwirfoddoli rymuso pobl a chefnogi ein sir i fod yn fwy cydnerth. Er ein bod yn dibynnu fwyfwy ar garedigrwydd dieithriaid, maeân bwysig ein bod yn rhannuâr argraff a wnânt, a dathlu eu cyfraniadau iân cymdeithas, iâr economi leol a gwasanaethau iâr dyfodolâ.
Mae Robert Ramsaha-Southall, Swyddog Ymchwil Ymgysylltu Cymunedol gydaâr asiantaeth arweiniol, Nacro Cymru, yn parhau âMae cyfres Digwyddiadau Dathlu Gwirfoddoli âRydym Gyda Chiâ yn gyfleoedd delfrydol i ddod â gwirfoddolwyr at ei gilydd i ddathlu eu hymroddiad anhunanol iâr darparydd/wyr maen nhwân eu cefnogi. Nid ywâr rhan fwyaf o bobl yn chwilio am unrhyw gydnabyddiaeth, ond hebddynt ni fyddaiâr rhan fwyaf o ddarparwyr yn gallu rhoiâr un lefel o gefnogaeth i bobl yn Sir Gaerfyrddin. Mae hynnyân arbennig o wir yng nghefn gwlad. Rydym eisiau dweud diolch am hynny.â
Mae Geena Ware, Swyddog Prosiect Ymgysylltu Cymunedol gydaâr ail asiantaeth arweiniol, Pobl Group, hefyd yn credu ei bod yn  ‘wych gweld cymunedauân dod at ei gilydd mewn digwyddiadau fel hwn i godi ymwybyddiaeth oâr holl bethau syân digwydd yn lleol. Maeâr digwyddiad yng Nghanolfan Gymunedol Cwmaman ar Fehefin 7fed, er enghraifft, yn cefnogi eu hymgysylltiad cymunedol rheolaidd ar ddydd Gwener, ac maeân fraint inni gael cefnogi eu hymrwymiad i wirfoddoli lleol. Mae ychwanegu at yr hyn syân gweithioân dda, law yn llaw ag agwedd gadarnhaol at gyd-gynhyrchu, yn hanfodol wrth inni geisio dod o hyd iân ffordd drwyâr argyfwng presennol o ran gwirfoddoliâ.
Maeâr ymgyrch yn parhau yn 2024 ac maeân cynnwys pum digwyddiad cymunedol ar draws y sir lle y bydd partneriaid Cysylltu Sir Gâr, Nacro, Pobl, Age Cymru Dyfed, Mencap, Mind Sir Benfro/Sir Gaerfyrddin, The Wallich, gydag aelodau o dĂŽm CAVS a Connect Sir Gaerfyrddin  â yn cynnig cyfleoedd i bobl gyfarfod gyda nifer o elusennau/grwpiau all eu cefnogi i ddod o hyd i rĂ´l syân cynnal a meithrin eu diddordebau eu hunain. Bydd y digwyddiadauân cynnwys gweithgareddau diolch yn fawr, gwesteion arbennig, lluniaeth am ddim ac maeân agored i bawb â boed yn gwirfoddoli ar hyn o bryd, yn meddwl gwirfoddoli neuân awyddus i gael gwybod mwy. Yn y bĂ´n maeâr digwyddiadau hyn ar eich cyfer CHI felly da chi dewch i gael golwg arnyn nhw. Fe fydd tystysgrifauân cael eu cyflwyno i wirfoddolwyr, lle i gael sgwrs â phobl oâr un anian â chi a gallwch hefyd siarad ag aelodau o dĂŽm Cysylltu Sir Gâr, CAVS a grwpiau syân gweithio yn eich cymuned.
- Neuadd San Pedr, Caerfyrddin Dydd Mawrth 4ydd Mehefin 10-2.
- Tref Hendy-gwyn Dydd Mercher 5ed Mehefin 9.30-2.30.
- Neuadd Llandysul, Dydd Iau 6ed Mehefin 11-1.
- Sied Nwyddau Llanelli Dydd Gwener 7fed Mehefin 11-2.
- Canolfan Gymunedol Glanaman Dydd Gwener 7fed Mehefin 10-2.
Maeâr Cynghorydd Sir Sue Allen yn eiriolydd angerddol dros wirfoddoli ac maeân deall yr effaith all gael ar gydlyniant a chydnerthedd cymunedol. âMaeân ddiau mai asgwrn cefn Hendy-gwyn yw ei gwirfoddolwyr. Maen nhwân cefnogiâr holl chwaraeon, y caeau chwaraeon, treftadaeth, neuaddau cymunedol prysur, banc bwyd, y siop elusen ar gyfer cathod, a siop lyfrau. Mae CĂ´r Meibion Hendy-gwyn dros 100 mlwydd oed ac mae wedi difyrru a chodi arian i elusennau lleol yn ystod sawl cyfnod anodd. Mae grwpiau Cenedlaethol a Rhyngwladol fel Clwb Rotari Arberth a Hendy-gwyn, Sefydliad y Merched, Y Ford Gron, Merched y Wawr, y Corfflu Hyfforddiant Awyr aâr Ffermwyr Ifanc oll yn cael eu cynrychioli yn nhref Hendy-gwyn. Maeâr Gwasanaeth Tân bob troân fodlon cefnogi digwyddiadau cymunedol yn eu hamser personol, heb anghofioâr bobl ifanc syân ymfalchĂŻo yn eu cymuned ac yn mynd atiân ddisylw i hel sbwriel neu helpu pobl gyda biniau gwastraff bwyd. Maeâr ddwy ysgol yn cynnig amser staff a disgyblion, y tu allan i oriau ysgol, i gefnogi digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol yn rheolaidd.
Roedd penllanw gwaith gwirfoddol yn amlwg iawn yng NgĹľyl Bwyd Stryd anhygoel Hendy-gwyn ar Fai’r 5ed a drefnwyd gan Joseff Edwards ar ran y Gemma Harries Memorial CICÂ syân cefnogi elusennau lleol a chenedlaethol. Roedd yn ddigwyddiad arbennig a fwynhawyd gan gannoedd ar gannoedd o ymwelwyr a ddangosodd Hendy-gwyn ar ei gorau. Rydym yn edrych ymlaen at ddigwyddiad âRydym Gyda Chiâ ar ddydd Gwener y 5ed ac yn falch iawn y defnyddir Neuadd y Dref aâr Neuadd Goffaâ.
Mae âgwirfoddoliâ a âchynnig help llawâ yn cefnogi diwydiant trydydd sector enfawr o âgefnogaeth gymunedolâ ac rydym eisiau dweud diolch. Maeâr âcwtsh cymunedolâ yn haeddiannol iawn a chan ein bod yn dathlu 40 mlwyddiant Wythnos Gwirfoddolwyr, rydym yn gobeithio y gallwch gefnogi ymgyrch âRydym Gyda Chiâ. Os ydych yn gwirfoddoli, beth am wneud clip digidol am pam rydych yn gwirfoddoli fel y gallwn ei ychwanegu at y casgliad fydd yn cael ei rannu yn ystod wythnos gyntaf Mehefin â cysylltwch â Jamie.horton@cavs.org.uk i gael mwy o fanylion.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle