Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr: mynd gam ymhellach

0
138
Volunteer Week

I’r rhan fwyaf ohonom, mae dod i ddiwedd diwrnod caled o waith yn golygu gallu ymlacio neu dreulio amser gyda ffrindiau a theulu.

Ond i un goruchwyliwr trên ym Machynlleth, pan fydd gwaith y dydd yn dod i ben, dim ond megis dechrau y mae ei waith dros ei gymuned.

Fel rhan o Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr, mae Trafnidiaeth Cymru yn dathlu rhai o’n cydweithwyr ni sydd wir yn mynd gam ymhellach.

Mae Gareth Mason wedi bod yn Ymatebwr Cyntaf Cymunedol yn nhref Machynlleth a’r ardal gyfagos ers 14 mlynedd ac mae hefyd yn gweithredu fel “gwarcheidwad” i’r diffibrilwyr hynny y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt yn yr ardal.

“Fe ddechreuais i yn y rôl nôl yn 2010 oherwydd roeddwn i’n awyddus i weithredu fel rhyw fath o bont rhwng cleifion a’r gwasanaeth ambiwlans,” meddai Gareth.

“Mae straen anferth ar y gwasanaeth ac mae’r rolau hyn yn ein galluogi i ymateb i gleifion yn gynt, a gall hyn olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw.

“Dw i wedi ymateb i tua 16 o gleifion a gafodd drawiadau ar y galon ac ar bob achlysur, roedd angen diffibriliwr a CPR arnynt.”

Video: https://www.youtube.com/watch?v=pb9xmYuWju4

Mae Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol yn cael eu hyfforddi a’u cefnogi gan gynllun hyfforddiant mewn swydd blynyddol wedi’i drefnu gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys cwrs pum diwrnod sy’n canolbwyntio ar anatomeg, ffisioleg, argyfyngau trawmatig a meddygol, hyfforddiant mewn cynnal bywyd sylfaenol a diffibrilio.

Gall yr oriau y maent yn gwirfoddoli amrywio yn seiliedig ar ymrwymiadau gwaith, wrth i Gareth sicrhau ei fod ar gael tua 16 awr y mis.

Wrth wirfoddoli, mae angen i Ymatebwr Cyntaf Cymunedol wisgo gwisg arbennig a byddant ar alwad mewn ardal benodol ac yn ystod y cyfnodau penodol y maent wedi’u nodi a bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cysylltu â nhw os oes sefyllfa yn codi lle gallant helpu.

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru: “Mae Gareth yn enghraifft wych o ble mae ein pobl yn mynd gam ymhellach er lles y rhai sydd mewn angen yn eu cymunedau a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu ein cydweithwyr lle maen nhw am wirfoddoli.

“Mae gwirfoddoli’n dod ym mhob lliw a llun; gallai fod yn gofalu am ffrind neu aelod o’r teulu, helpu mewn lloches i’r digartref neu redeg tîm chwaraeon lleol. Ond mae’n gymaint o ysbrydoliaeth clywed am y gwaith gwych sy’n digwydd, yn aml iawn heb i ni fod yn ymwybodol ohono, da iawn i bob un person sy’n gwirfoddoli.”

Dywedodd Judith Bryce, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae gwirfoddolwyr fel Gareth yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’w cymunedau a’r bobl maen nhw’n eu helpu.

“Rydym bob amser yn ddiolchgar i’r gwirfoddolwyr ledled Cymru, sy’n rhoi’n hael o’u hamser ac yn mynychu argyfyngau difrifol lle mae bywyd yn aml yn y fantol.

“Mae ein Hymatebwyr Cyntaf Cymunedol (CFR’s) yn rhan hanfodol o’n gwasanaeth ac rydym yn rhyfeddu o hyd at yr ymroddiad, ansawdd y gofal a’r anhunanoldeb y mae’r Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol yn eu dangos i bobl Cymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle