RHUN FYDD LLAIS CYMRU YN NADLEUON TELEDU YR ETHOLIAD MEDDAI LEANNE WOOD

0
248
Rhun ap Iorwerth AM, Leader of Plaid Cymru

Rhun ap Iorwerth fydd “llais Cymru” yn ystod y dadleuon a ddarlledir cyn yr etholiad, mae cyn Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi dweud.

Cynrychiolodd Leanne Wood ei phlaid yn y dadleuon teledu Etholiad Cyffredinol cyntaf yn 2015 gan roi llwyfan digynsail i Blaid Cymru yng nghyfryngau’r wasg Brydeinig.

Defnyddiodd y dadleuon i ddadlau’r achos dros gyllido teg ac agenda gymdeithasol fwy blaengar i Gymru, gan ennill enw am herio arweinydd presennol Reform UK ac arweinydd UKIP ar y pryd, Nigel Farage, am godi bwganod am gleifion HIV o dramor.

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn edrych ymlaen at hyrwyddo gweledigaeth uchelgeisiol Plaid Cymru ar gyfer dyfodol Cymru ac at ddwyn Llafur a’r Torïaid i gyfrif am eu methiant hanesyddol i sicrhau cyllid teg i Gymru a chymryd pleidleiswyr Cymreig yn ganiataol am gyfnod rhy hir. Beirniadodd Rishi Sunak a Keir Starmer am “guddio o’r stiwdios teledu” drwy anfon cynrychiolwyr eraill i gymryd rhan yn y ddadl ar eu rhan.

Wrth siarad cyn y ddadl deledu saith arweinydd gyntaf yn Llundain ddydd Gwener 7 Mehefin, dywedodd Leanne Wood:

“Rhoddodd y dadleuon a ddarlledwyd cyn yr etholiad yn 2015 lwyfan digynsail i Blaid Cymru gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a rhoi i’n cenedl y ffocws y mae’n ei haeddu yng nghyfryngau’r DU.

 

“Roeddwn i’n falch o gymryd rhan yn y dadleuon hynny i wneud yr achos dros ariannu teg a chymdeithas fwy blaengar, a gwn mai Rhun fydd llais Cymru ar y llwyfan hwnnw yfory hefyd.

“Rwy’n gwybod y bydd Rhun yn defnyddio pob cyfle i osod gweledigaeth gadarnhaol Plaid Cymru, gan herio 14 mlynedd o reolaeth drychinebus gan y Ceidwadwyr a dwyn Llafur i gyfrif am gymryd pleidleiswyr Cymru yn ganiataol.”

 

Ychwanegodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth:

“Rwy’n edrych ymlaen I ddilyn ôl traed Arweinwyr Plaid Cymru yn cynrychioli buddiannau gorau Cymru yn ystod y dadleuon a ddarlledir ar y teledu.

 

“Rwy’n edrych ymlaen at hyrwyddo gweledigaeth Plaid Cymru o ddyfodol tecach, mwy uchelgeisiol i’n cenedl lle mae gan ein gwasanaethau cyhoeddus y cyllid sydd ei angen arnynt i roi’r gofal y maent yn ei haeddu i’n cymunedau.

 

“Mae’n anghredadwy bod Keir Starmer a Rishi Sunak yn teimlo eu bod nhw’n gallu dewis pryd i ymddangos ochr yn ochr ag arweinwyr eraill. Gallant guddio rhag y stiwdios teledu, ond ni allant guddio rhag record eu pleidiau o esgeuluso anghenion Cymru, a byddaf yn eu dwyn i gyfrif am hynny yn ystod y ddadl ddydd Gwener.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

Previous articleBest Golf Breaks in Wales:Top Courses and Hidden Gems
Next articleWhat is Medical Tourism?
Emyr Evans
Emyr likes running when fit,and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The West Wales Chronicle. All Emyr's thoughts are his own.