Cafodd arweinydd o Goleg Cambria ei dewis i helpu i hyrwyddo ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn y diwydiant lletygarwch

0
179
Burnt Chef Awards

Rheolwr Dysgu yn y Gwaith, Kate Muddiman ydy Llysgennad Gogledd Cymru ar gyfer The Burnt Chef Project.

Mae’r sefydliad byd-eang yn darparu addysg, arweiniad, ac adnoddau i helpu i fynd i’r afael â’r stigma, gan fod mwy na phedwar allan o bump o weithwyr proffesiynol yn y sector hamdden wedi profi o leiaf un broblem iechyd meddwl neu brofiad o iechyd meddwl gwael yn ystod eu gyrfaoedd.

Daw’r newyddion ar ôl i Kate a’r tîm Lletygarwch yng Ngholeg Cambria – sydd â safleoedd yng Nglannau Dyfrdwy, Wrecsam, Llysfasi a Llaneurgaingael eu henwebu ar gyfer categori Effaith Eithriadol mewn Addysg Arlwyo yng Ngwobrau The Burnt Chef Project eleni.

Mae bod yr unig gynrychiolydd o Ogledd Cymru yn fraint enfawr, i mi a’r coleg,” meddai Kate.

Kate Muddiman Awards

“Mi wnaeth darganfod mentrau The Burnt Chef Project danio cyswllt i mi yn syth gan fy mod i’n angerddol am drawsnewid y sgwrs ynghylch iechyd meddwl a thrawma mewn gweithleoedd a lleoliadau addysg, gan anelu at wella ein hamgylcheddau.

“Mae gen i gefndir mewn lletygarwch ac mae fy nau o blant yn rhan o’r diwydiant, dwi’n benderfynol o fod yn eiriolwr ac yn llais ar gyfer newid cadarnhaol mewn maes sy’n gallu bod yn anodd iawn, ond mae agweddau’n dechrau newid.”

Ychwanegodd hi: “Wrth arwain tîm dysgu yn y gwaith mewn lletygarwch, mi roeddwn i’n dyst o sut mae amgylcheddau’r gweithle yn gallu effeithio ar lesiant meddwl yn sydyn.

“O ganlyniad i’n chwilfrydedd mi es i ar drywydd gradd ôl-raddedig mewn Trawma, Ymlyniad ac Iechyd Meddwl, ac wrth roi’r wybodaeth yma ar waith o fewn y tîm trawma yn y coleg – a gyda’n partneriaid diwydiantdwi’n gallu helpu i yrru newid cadarnhaol i staff, myfyrwyr, a chyflogwyr wrth gynnig cymorth ac addysg i rymuso trawsnewidiadau.

“Mae cynnydd mewn lleihau stigma iechyd meddwl yn amlwg, ond eto mae ein taith i newid cynhwysfawr yn parhau. Dwi’n edrych ymlaen at gefnogi The Burnt Chef Project i helpu i wneud y newid yma, ac yng Ngholeg Cambria mi fyddwn ni’n parhau ein gwaith da o dynnu sylw at y pwnc.”

Ar y Rhaglen Llysgenhadon, dywedodd The Burnt Chef Project: “Rydyn ni’n ceisio adeiladu cymuned ryngwladol o unigolion lletygarwch amrywiol sydd wedi profi salwch meddwl.

Mae’r rhwydwaith yn ymddwyn felgwecymorth cymheiriaid yn fyd-eang ac wrth weithio gyda’n gilydd mi wnawn ni gynnal sgyrsiau grŵp wythnosol, sesiynau dal i fyny personol, a digwyddiadau rheolaidd.

“Ein nod ydy bod y rhwydwaith cymorth cymheiriaid rhyngwladol mwyaf o fewn y diwydiant lletygarwch.”

I weld rhagor ar The Burnt Chef Project, ewch i The Burnt Chef Project | Hospitality Mental Health Awareness.

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle