Busnesau Lleol a Gwirfoddolwyr yn ymuno i Lanhau Traethau Sir Benfro

0
262
Capsiwn: Casglwyd 12 bag o sbwriel oddi ar y traeth yng Ngorllewin Freshwater gan wirfoddolwyr a fu'n glanhau'r traeth fel rhan o ymgyrch Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro.

Cynhaliodd Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro ddigwyddiad llwyddiannus i lanhau’r traeth yng Ngorllewin Freshwater ddydd Gwener 10 Mai, gan gael gwared ar swm sylweddol o sbwriel o un o draethau mwyaf poblogaidd Sir Benfro.

Bu grŵp ymroddedig o 19 o wirfoddolwyr yn brysur yn glanhau. Roeddent yn dod o Borthladd Aberdaugleddau, Cyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a busnesau lleol Magnet Kitchens a DP Energy. Gan ddefnyddio cyfarpar wedi’i ddarparu gan Cadwch Gymru’n Daclus, rhoddodd y gwirfoddolwyr bedair awr o’u hamser i gasglu sbwriel ar y traeth.

Dywedodd Daniel Miles o Magnet Kitchens: ‘Cefais seibiant braf o’r gwaith i ymuno â thîm Prosiectau Magnet i lanhau traeth yn y gymuned. Fel tad sydd â phlant ifanc, mae’n ddigalon gweld sbwriel ar draethau hardd Cymru, ond roedd yn brofiad gwerth chweil rhoi help llaw yn Sir Benfro. Rwy’n sicr yn bwriadu dychwelyd gyda’r teulu yn nes ymlaen yn ystod yr haf!”

Roedd ei gydweithiwr, Collette Short, o’r un farn. Fe ychwanegodd: “Mae’n hyfryd gallu gwneud rhywbeth er budd y gymuned rydyn ni’n gweithio ynddi, a pha ffordd well o ddechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl na helpu elusen leol?”

Cawsant hwyl dda ar y gwaith casglu, gyda chyfanswm o 12 bag o sbwriel yn cael ei waredu oddi ar draeth Gorllewin Freshwater. Bydd y gwastraff a gasglwyd yn cael ei waredu’n gyfrifol, gan atal niwed i fywyd morol a gwarchod harddwch naturiol arfordir Sir Benfro.

Dywedodd Jack O’Shea o Borthladd Aberdaugleddau: “Diolch i dîm Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro am drefnu a hwyluso cyfle gwych i ni ymgysylltu â’n cydweithwyr y tu allan i’r swyddfa a chwrdd â chysylltiadau newydd o bob cwr o Sir Benfro mewn lleoliad arbennig.

“Rydyn ni’n hynod lwcus ein bod yn byw ac yn gweithio yn y rhan hardd hon o’r byd ac mae’n bleser mynd allan a chyfrannu at ein cymunedau a’n hamgylchedd lleol mewn ffyrdd cadarnhaol fel hyn. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddigwyddiad nesaf yr Ymddiriedolaeth – croesi bysedd y cawn ni’r un amodau godidog a chwmni gwych ag a gawsom ni’r tro hwn!”

Ychwanegodd Lee Watt, Rheolwr Prosiect yn DP Energy, sy’n Bartner Arian gydag Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Mae’n wych darparu cefnogaeth ymarferol drwy wirfoddoli mewn digwyddiadau, yn enwedig pan mai’r nod yw cynnal harddwch naturiol ein traethau lleol. Pa ffordd well o gefnogi Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn ei chenhadaeth i gefnogi cadwraeth, cymuned a diwylliant yn y Parc Cenedlaethol, na thrwy fynd allan ar ddiwrnod heulog i gasglu sbwriel a chael sgwrs gyda chydweithwyr o’r ardal.”

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro wedi ymrwymo i warchod ein harfordir arbennig ar gyfer y cenedlaethau nesaf ac mae eisoes yn edrych ymlaen at ei digwyddiad glanhau traeth nesaf ym Maenorbŷr, sydd wedi’i drefnu ar gyfer dydd Gwener 4 Hydref.

Dylai unrhyw weithleoedd neu unigolion sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â Katie Macro yn katiem@arfordirpenfro.org.uk.

Mae rhagor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Elusennol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gael yn https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle