PLAID CYMRU YN CYNNIG EI HUN FEL PLEIDLAIS AMGEN I GEFNOGWYR LLAFUR SY’N DYMUNO LLAIS BLAENGAR I GYMRU

0
545
By Sinn Féin - https://www.flickr.com/photos/sinnfeinireland/53567554935/, CC BY 2.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=146062205

“Os ydych chi’n credu yng ngwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol, heddwch rhyngwladol, tegwch economaidd i Gymru ac yn cefnogi hawl lleisiau lleol i gael eu clywed, ystyriwch gefnogi Plaid Cymru yn yr etholiad hwn.”

Mae Rhun ap Iorwerth wedi ysgrifennu at gefnogwyr Llafur yng Nghymru heddiw i gynnig Plaid Cymru fel llais blaengar yn San Steffan, fel dewis amgen i’r blaid Lafur.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru ar ôl 14 mlynedd o reolaeth Dorïaidd, nad yw’r blaid Lafur yn cynnig “y math o newid radical sydd angen arnom.”

Mae Llafur wedi methu i gynnig syniadau uchelgeisiol i ail-adeiladu’r economi, sefyll fyny i Farage ar fewnfudo, na chwaith i ymrwymo i gael gwared â’r cap dau blentyn sydd yn effeithio 65,000 plant yng Nghymru.

Dywedodd Plaid Cymru fod pleidlais iddyn nhw yn bleidlais i ddwyn Llywodraeth Llafur y dyfodol i gyfrif, ac i sicrhau nad yw anghenion Cymru yn cael eu hanwybyddu yn San Steffan.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:

“Ym 1997, sicrhaodd Tony Blair fwyafrif ysgubol. Roedd ymdeimlad o newid gwirioneddol. Fwy na chwarter canrif yn ddiweddarach, rydym yn wynebu sefyllfa debyg lle mae Llywodraeth Lafur y DU yn ymddangos yn anochel ar ôl 14 mlynedd o weinyddiaeth Dorïaidd drychinebus. 

“Fodd bynnag, mae ymdeimlad amlwg nad yw’r newid a gynigir gan Lafur yn gyfystyr â’r math o newid radical sydd ei angen arnom. 

“Nid oes gan Syr Keir Starmer y syniadau beiddgar, uchelgeisiol sydd eu hangen i ailadeiladu ein heconomi ar ôl anhrefn Liz Truss, na’r dewrder i wrthwynebu celwydd Nigel Farage am fewnfudo, na chwaith y tosturi i ddileu’r cap ar fudd-daliadau dau blentyn. 

“Mae pob pôl unigol yn dweud wrthym fod amser y Torïaid ar ben, felly mae’r etholiad hwn fwyaf hefyd yn gyfle i ddwyn Llywodraeth Lafur newydd i gyfrif mewn ffordd adeiladol. 

“Os ydych yn credu yng ngwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol, heddwch rhyngwladol, tegwch economaidd i Gymru ac yn cefnogi hawl lleisiau lleol i gael eu clywed, gofynnaf ichi ystyried cefnogi Plaid Cymru yn yr etholiad hwn. 

“Po fwyaf o ASau Plaid Cymru sydd gennym yn San Steffan, y mwyaf tebygol yw hi y bydd llais Cymru yn cael ei glywed ac nad yw anghenion ein cenedl yn cael eu hanwybyddu mwyach. 

“Os yw’r wythnosau diwethaf wedi eich gadael yn cwestiynu a yw Llafur Keir Starmer yn siarad ar eich rhan fel y dylai mewn gwirionedd, ystyriwch bleidleisio Plaid ar 4ydd Gorffennaf am lais blaengar yn San Steffan.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle