Cyllid teg yn “hanfodol” i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltu cymunedau

0
242

Ymgeisydd Plaid Cymru dros Gaerfyrddin yn addo blaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus os caiff ei hethol yn Aelod Seneddol

Mae cyllid teg i Gymru yn hanfodol er mwyn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltu cymunedau gwledig yn ôl Plaid Cymru.

Dywedodd Ann Davies, ymgeisydd Plaid Cymru dros etholaeth Caerfyrddin yn yr etholiad cyffredinol, fod bron i £4bn o gyllid rheilffyrdd o San Steffan yn ddyledus i Gymru a allai gael ei ddefnyddio i adeiladu seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru ac adfer gwasanaethau bysiau gafodd eu torri gan y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd.

Roedd Ms Davies yn siarad cyn ymweliad â Bysiau Cwm Taf heddiw (dydd Mawrth 18 Mehefin 2024).

Fe wnaeth Llafur torri £150m mewn gwasanaethau bysiau yng Nghymru y llynedd.

Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru dros Gaerfyrddin, Ann Davies:

“Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n dadlau dros gyllid teg i Gymru yn yr etholiad hwn – ac mae hynny’n cynnwys sicrhau’r £4bn sy’n ddyledus i Gymru o HS2 i fuddsoddi mewn gwella ein trafnidiaeth gyhoeddus ein hunain ym mhob rhan o’r wlad a gwrthdroi toriadau i wasanaethau bysiau lleol.

“Mae’r Ceidwadwyr wedi tanariannu Cymru ers dros bedair blynedd ar ddeg. Rhwng 2011 a 2020, er enghraifft, derbyniodd Cymru gyfanswm o £514m yn llai nag y byddai wedi’i gael o dan system gwariant rheilffyrdd y DU sy’n seiliedig ar boblogaeth.

“Ond mae hefyd yn hollol warthus bod Llafur hefyd yn gwrthod ymrwymo i roi cyllid llawn i Gymru gan HS2 – gan anwybyddu ewyllys y Senedd a changen Gymreig plaid eu hunain sydd wedi galw am hyn.

“Ac mae hynny heb ddechrau sôn am Lywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur yn torri £150 miliwn o gyllid bws yn 2023.

“Fel rhywun sy’n byw ac yn gweithio yma fy hun, rwy’n deall pa mor amhosib yw cyrraedd unrhyw le heb drafnidiaeth gyhoeddus da.

“Dyna pam mae Plaid Cymru wedi bod mor ddi-baid yn mynnu’r biliynau o gyllid sy’n ddyledus i ni fel y gallwn adeiladu ein seilwaith trafnidiaeth, adfer ein gwasanaethau bysiau, a chysylltu ein cymunedau gogledd i’r de.

“Ac mae manteision y cyllid hwn yn mynd y tu hwnt i wella ein rhwydwaith trafnidiaeth yn unig. Gallai hefyd olygu buddsoddiad yn ein heconomïau lleol, creu swyddi ac ysgogi twf. Gallai hyn helpu i ddenu busnesau a diwydiannau newydd i’n rhanbarth, gan ddod â ffyniant a chyfleoedd mawr eu hangen i’n cymunedau.

“Dim ond pleidlais i Blaid Cymru ar 4 Gorffennaf fydd yn mynnu tegwch i Gymru – gan roi’r cyllid sydd ei angen arnom a’r system drafnidiaeth gyhoeddus yr ydym yn ei haeddu.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle