CYFWELIAD JO STEVENS YN DANGOS “AGWEDD NAWDDOGLYD” TUAG AT GYMRU” MEDDAI PLAID

0
160
Heledd Fychan MS

Mae Jo Stevens o’r Blaid Lafur wedi’i chyhuddo o ddangos “agwedd nawddoglyd a dirmygus” tuag at Gymru gan Blaid Cymru.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen S4C Byd yn ei Le mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cysgodol yn dweud bod ganddi “hyder llwyr” ym Mrif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, er gwaetha’r sgandal sydd o’i amgylch. Mae hi hefyd yn dweud na fyddai Cymru’n cael cyllid canlyniadol gan HS2 gan nad yw’r prosiect “yn cael ei adeiladu”, ac yn gwawdio datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru fel rhywbeth sy’n “chwarae o gwmpas gyda strwythurau a systemau”.

Mae HS2 yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd – gyda’r prosiect ei hun yn dweud ei fod yr adeiladu “ar ei hanterth”.

Cefnogir datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru gan Blaid Cymru a Llafur yng Nghymru. Fe’i cefnogwyd gan sawl gomisiwn annibynnol neu drawsbleidiol gan gynnwys Comisiwn Thomas (2019), Comisiwn Silk (2014) ac yn fwyaf diweddar y Comisiwn ar Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru (2024).

Dywedodd Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru yn y Senedd,

“Does dim diwrnod yn mynd heibio heb iddi ddod yn amlwg bod pencadlys Llafur ‘Cymreig’ wedi’i leoli’n gadarn yn Llundain.

“Ar ffaith ac egwyddor, mae Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Gymru, Jo Stevens yn anghywir.

“Anghywir dweud nad yw rheilffyrdd cyflym yn Lloegr yn cael eu hadeiladu, ac yn anghywir i beidio â chefnogi’r egwyddor y dylai Cymru gael ei chyfran o wariant ar brosiectau trafnidiaeth yn Lloegr.

“Wrth gyfeirio at ddatganoli fel cytundeb, fe roddodd darpar Ysgrifennydd Cymru ragolwg i ni o sut y byddai Cymru’n cael ei thrin gan lywodraeth Lafur y DU.

“Mae ei haeriad bod datganoli cyfiawnder yn gyfystyr â chwarae o gwmpas gyda strwythurau a systemau yn chwerthinllyd yn wyneb adroddiadau a gomisiynwyd gan Lafur sy’n cyflwyno’r achos cadarnhaol dros ddatganoli plismona a chyfiawnder.

“Dangosodd y cyfweliad agwedd nawddoglyd a dirmygus tuag at Gymru gan brif dîm Keir Starmer.

“Mae’n dod yn gliriach pob dydd mai’r unig bleidlais i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei chlywed a’i pharchu ar Orffennaf 4ydd yw pleidlais i Blaid Cymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle