CYLLIDO TEG YN GANOLOG I WELLA’R ARGYFWNG GOFAL CYNRADD YNG NGHYMRU

0
451
Llinos Medi, ymgeisydd Plaid Cymru yn Ynys Môn

Mae torriadau’r Torïaid a chamreolaeth Llafur o’r gwasanaeth iechyd ar fai am yr argyfwng meddygon teulu – Plaid Cymru

Mae model ariannu ar sail anghenion i Gymru yn hanfodol i sicrhau fod gofal cynradd a’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cael ei ariannu’n iawn.

Mae Llinos Medi, ymgeisydd Plaid Cymru dros Ynys Môn, wedi rhoi’r bai ar dorriadau’r Torïaid a chamreolaeth Llafur o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru am y lleihad yn y nifer o feddygon teulu, llai o apwyntiadau, a’r posibilrwydd o’r canfed feddygfa yn cau mewn ychydig dros ddegawd.

Mae Plaid Cymru yn galw am gyllid teg i Gymru o San Steffan i fynd i’r afael â’r “problemau dwfn o fewn ein gwasanaeth iechyd a’n sector gofal cynradd” trwy recriwtio 500 o feddygon teulu ledled Cymru ac adfer cyllid i ofal cynradd i 8.7% o’r wariant y gwasanaeth iechyd – gan wyrdroi degawd o doriadau Llafur.

Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru dros Ynys Môn, Llinos Medi:

“Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n brwydro am gyllid teg i Gymru yn yr etholiad hwn i fuddsoddi yn ein heconomi, y GIG a’n gwasanaethau cyhoeddus.

“Mae blynyddoedd o doriadau Torïaidd a chamreoli Llafur wedi gadael y GIG ar ei gliniau. Mae meddygon a nyrsys yn cael eu gorweithio a’u tan-dalu. Nid oes digon o apwyntiadau meddyg teulu ar gael sy’n golygu bod cleifion yn gorfod aros yn llawer rhy hir am y gofal sydd ei angen arnynt.

“Cymerwch Gaergybi er enghraifft. Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl yr oedd gofal sylfaenol ar fin cwympo. Nid oes digon wedi cael ei wneud ers hynny gan Lafur yng Nghaerdydd i ddilyn eu haddewidion i sicrhau gwydnwch hirdymor gofal sylfaenol yn y dref.

“Mae gan Blaid Cymru gynllun clir ar gyfer datrys y problemau dwfn o fewn ein gwasanaeth iechyd a’n sector gofal cynradd, sy’n cynnwys buddsoddi yn y gweithlu a recriwtio 500 o feddygon teulu ychwanegol ledled Cymru.  Byddai hyn nid yn unig yn cynyddu nifer yr apwyntiadau sydd ar gael i gleifion, ond hefyd yn tynnu’r baich oddi ar ein gweithwyr meddygol proffesiynol hanfodol.”

“Er bod y Torïaid ar chwal, a Llafur yn parhau i gymryd Cymru’n ganiataol, dim ond llais cryf Plaid Cymru yn San Steffan fydd yn sicrhau bod Cymru’n cael ei chyfran deg o gyllid a fyddai’n ein galluogi i ddatrys yr heriau sy’n wynebu’r sector gofal cynradd mewn llefydd fel Ynys Môn.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle