Mae St John Ambulance Cymru yn nodi Dydd Sant Ioan (Mehefin 24ain) drwy lansio ei Adroddiad Effaith diweddaraf, sy’n amlygu sut y gwnaeth elusen cymorth cyntaf Cymru helpu degau o filoedd o bobl y llynedd.
Mae’r adroddiad blynyddol yn cynnwys straeon am fywydau a achubwyd gan Bobl St John, ein gweithgarwch ieuenctid gwych, ystadegau allweddol ac adborth cyhoeddus sy’n dangos y gwahaniaeth hollbwysig a wnaeth yr elusen mewn cymunedau ledled y wlad yn 2023.
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys ffigurau allweddol sy’n dangos nifer y bobl a enillodd sgiliau newydd drwy fynychu cwrs Hyfforddiant yn y Gweithle neu arddangosiad cymorth cyntaf am ddim, yn ogystal â’r miloedd o gleifion a gafodd gymorth drwy gludiant cleifion a chynlluniau rheng flaen yr elusen fel ein Hymateb Cwympiadau.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol St John Ambulance Cymru, Richard Lee MBE CStJ QAM FIMC FCPara: “Mae’r adroddiad pwerus hwn yn dangos y cyfraniad achub bywyd a wnaeth ein pobl yn eich cymuned yn 2023.
“Ni allwn fod yn fwy balch o bopeth y mae ein pobl yn ei wneud o ddydd i ddydd. Boed yn swyddogion cymorth cyntaf a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn digwyddiadau, ein harweinwyr ieuenctid, ein timau ambiwlans a chwympiadau, neu’r bobl y tu ôl i’r llenni sy’n hyfforddi’r cyhoedd a’n pobl, codi arian a chadw’r elusen i redeg. Mae’n ymdrech tîm go iawn.”
“Dydd Sant Ioan yw’r diwrnod delfrydol i gyhoeddi’r adroddiad hwn a dangos sut mae elusen cymorth cyntaf Cymru yn chwarae ei rhan yng ngwaith byd-eang teulu St John.”
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y nifer o Wirfoddolwyr St John Ambulance Cymru sydd wedi datblygu eu sgiliau a chael eu gwobrwyo am eu hymdrechion, o Blant a Phobl Ifanc 5 oed a hŷn, hyd at wirfoddolwyr sydd wedi ymroi degawdau o wasanaeth.
Mae Dydd Sant Ioan yn cael ei nodi gan aelodau o deulu St John International ar draws y byd bob blwyddyn, gyda’r dathliadau’n cynnwys gwasanaeth arbennig yn Eglwys Gadeiriol St Paul’s.
I lawrlwytho Adroddiad Effaith diweddaraf St John Ambulance Cymru, ewch i: https://www.sjacymru.org.uk/impact-report.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle