Castell Caeriw yn cyflwyno tymor o straeon dan y sêr

0
396
Mae perfformiadau Theatr Awyr Agored Castell Caeriw wedi bod yn boblogaidd dros ben dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae'n syniad da archebu eich tocynnau yn gynnar.

Mae haf ysblennydd o ddrama awyr agored o’n blaenau yng Nghastell Caeriw, wrth i’w raglen Theatr Awyr Agored boblogaidd fynd rhagddi dros yr wythnosau nesaf.

Bydd y perfformiad cyntaf, sef cynhyrchiad o stori boblogaidd Little Women gan Louisa May Alcott, yn cael ei gynnal nos Fawrth 16 Gorffennaf yn yr atyniad eiconig hwn sy’n cael ei redeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

 Mae cynhyrchiad hwn gan Theatr Chapterhouse yn cynnwys gwisgoedd o’r cyfnod a sgôr gerddorol hyfryd, ac mae’n dilyn taith y chwiorydd March wrth iddyn nhw dyfu’n oedolion, a’r holl helyntion a hyfrydwch a ddaw yn sgil hynny.

Mae’n addas gyfer y rheini sy’n 8 oed neu’n hŷn. Bydd y drysau’n agor am 5.30pm a’r sioe’n dechrau am 6.30pm.

Nos Fawrth 6 Awst, bydd Immersion Theatre, sydd wedi cael eu henwebu am sawl gwobr ac sy’n adnabyddus am eu perfformiadau egnïol, yn eich gwahodd i hedfan i Neverland gyda nhw ar gyfer eu sioe gerdd fwyaf hudolus hyd yma, Peter Pan.

Bydd y sioe gerdd hwyliog a chyffrous hon am y bachgen bythol ifanc yn siŵr o hoelio sylw pob aelod o’r teulu gyda’i cherddoriaeth fachog. Bydd y gynulleidfa’n cael ei chynnwys yn y miri a bydd y sgript yn siŵr o wneud i chi chwerthin lond eich bol.

Mae’r sioe’n addas ar gyfer plant 4 oed a hŷn ac mae’n para tua 100 munud, gan gynnwys yr egwyl. Bydd y drysau’n agor am 4.45pm, a’r sioe yn dechrau am 5.30pm.

Perfformiad olaf yr haf fydd cynhyrchiad newydd sbon Cwmni Theatr Chapterhouse o stori Beauty and the Beast, a gynhelir ddydd Mercher 21 Awst. Yn yr addasiad hwn o’r stori tylwyth teg glasurol, mae tywysog trahaus wedi cael ei felltithio i fyw fel bwystfil brawychus am byth, a’i unig obaith yw menyw ifanc garedig sy’n chwilio am rosyn.

Gyda cherddoriaeth wreiddiol fywiog a hiwmor pefriog, mae’r addasiad newydd cyffrous o Beauty and the Beast yn berffaith i’r teulu cyfan. Bydd y drysau’n agor am 4.45pm, a’r sioe yn dechrau am 5.30pm.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu ymwelwyr i Gastell Caeriw ar gyfer tymor gwych arall o Theatr Awyr Agored. Mae’r cynyrchiadau hyn yn gyfle unigryw i brofi straeon poblogaidd yn lleoliad hudolus ein castell hanesyddol. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at weld cynulleidfaoedd o bob oed yn cael eu swyno gan hud theatr fyw dan awyr braf yr haf.”

Rhaid archebu lle ar gyfer pob perfformiad. Ewch i www.castellcaeriw.com i fynnu eich tocynnau, i weld yr amseroedd, ac i gael rhagor o wybodaeth. Sylwch nad oes modd cael arian yn ôl am y tocynnau ac y bydd y perfformiadau’n mynd rhagddynt mewn tywydd gwlyb.

Cynghorir y rheini sy’n dod i’r digwyddiadau i ddod â charthen neu gadair â chefn isel i eistedd arni, yn ogystal â phicnic a dillad addas, er mwyn gwneud eu hunain yn gysurus i fwynhau’r noson. Bydd diodydd poeth a hufen iâ ar gael ar y safle.

Mae’r Castell a’r Felin Heli ar agor rhwng 10am a 4.30pm bob dydd drwy gydol yr haf (mynediad olaf am 4pm), gydag Ystafell De Nest yn gweini cinio ysgafn, lluniaeth ac amrywiaeth o gacennau cartref blasus.

Mae rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle