Myfyrwyr ysgol Cymru yn cael profiad fel meddygon a deintyddion.

0
211

Cafodd hanner cant a phump o ddarpar feddygon flas ar yrfa mewn meddygaeth a bywyd fel myfyriwr meddygol mewn cyrsiau preswyl meddygol yr wythnos hon.

Treuliodd dysgwyr Blwyddyn 12 Academi Seren o bob rhan o Gymru dridiau fel israddedigion meddygol yng nghyfleusterau gwych ysgol feddygol Prifysgol Caerdydd, gan fynd i sesiynau clinigol ymarferol a darlithoedd rhyngweithiol. Roeddent yn byw ar y campws fel myfyriwr go iawn, yn dysgu sgiliau clinigol a chyfathrebu gan feddygon ac arbenigwyr.

Yn ystod y tridiau cafodd y darpar feddygon brofiad ymarferol fel meddyg yn ystod gweithdy ‘Ysbyty Gobaith’. Gyda gwirfoddolwyr yn chwarae rhan cleifion roedd gofyn i’r myfyrwyr, gyda chefnogaeth clinigwyr, gymryd eu hanes clinigol, eu hasesu a thrin eu symptomau.

Aeth 15 o fyfyrwyr eraill Seren ar gwrs deintyddiaeth preswyl yn unig Ysgol Ddeintyddol Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd gan gymryd rhan mewn gweithdai deintyddol a chael profiad uniongyrchol mewn deintyddiaeth.

Mae cyrsiau preswyl Academi Seren yn un rhan o’r rhaglen o weithgareddau a ddarperir i’w dysgwyr i feithrin y sgiliau, y profiad a’r arbenigedd perthnasol i ymgeisio am gyrsiau a phrifysgolion cystadleuol.

Y llynedd aeth 166 o ddysgwyr o Academi Seren ymlaen i astudio meddygaeth neu ddeintyddiaeth mewn Prifysgolion blaenllaw.

Mae Academi Seren yn fenter a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r dysgwyr mwyaf galluog, waeth beth fo’u cefndir economaidd-gymdeithasol, sydd â’r uchelgais, y gallu a’r chwilfrydedd i gyflawni eu potensial a rhagori yn addysgol yn y dyfodol ar y lefel uchaf. Ar hyn o bryd mae tua 23,000 o ddysgwyr ym mlynyddoedd 8 i 13 yn cymryd rhan yn Seren.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

“Mae Seren wedi cael llwyddiant aruthrol wrth gefnogi’r myfyrwyr mwyaf galluog o Gymru i gyrraedd eu llawn botensial. Dyma enghraifft arall eto o sut mae’r academi yn ysbrydoli meddygon a deintyddion y dyfodol i wneud cais i’r cyrsiau gradd gorau.

“Bydd angen gweithwyr meddygol proffesiynol medrus iawn arnom bob amser, ac mae hyn yn ffordd dda iawn o dynnu sylw at y cyfleusterau gwych y gall prifysgolion Cymru eu cynnig i fyfyrwyr a hefyd helpu myfyrwyr Cymru i gael gyrfaoedd gwerth chweil mewn meddygaeth, waeth beth fo’u cefndir”.

Dywedodd y Prif Swyddog Deintyddol, Andrew Evans:

“Roedd yn fraint croesawu a sgwrsio gyda’r darpar fyfyrwyr deintyddol yn Ysgol Haf Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd yr wythnos hon. Mae sicrhau bod iechyd y geg yn dda yn rhan annatod o iechyd cyffredinol pawb ac, o’r herwydd, mae deintyddion yn aelodau hanfodol o’n system gofal iechyd.

“Bydd yr Ysgol Haf yn tynnu sylw at y ffaith bod deintyddiaeth yn yrfa werth chweil sy’n rhoi chyfleoedd i rywun wneud cyfraniad gwirioneddol i iechyd y cyhoedd.  Bydd defnyddio’r cyfleusterau gwych a modern yn Ysbyty Deintyddol Caerdydd yn gyfle i arddangos sut mae deintyddion y dyfodol yn cael eu hyfforddi ac yn tanio eu diddordeb wrth baratoi ar gyfer eu ceisiadau prifysgol”.

Dywedodd yr Athro Rachel Errington, Dirprwy Bennaeth Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd:

“Roedd staff a myfyrwyr Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd yn gyffrous am y cyfle i groesawu myfyrwyr o bob cwr o Gymru i weld beth sydd gennym i’w gynnig. Roeddem yn falch iawn o gael cydweithio â Llywodraeth Cymru ar y prosiect hwn. Roedd y cwrs preswyl yn gyfle gwych i gynyddu nifer y dysgwyr o Gymru sy’n mynd ymlaen i astudio Meddygaeth. Rydym yn gobeithio bod y profiadau wedi eu sbarduno i hyfforddi a gweithio fel meddygon yng Nghymru. Rydym yn ymfalchïo yn ein gwaith i helpu i feithrin a datblygu’r genhedlaeth nesaf o glinigwyr.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle