Mwy o bobl yn cerdded, beicio ac yn gyrru ar olwynion ledled Cymru.

0
115
Active Travel

Transport for Wales is on a mission to get more people walking, cycling and wheeling within Wales and has launched a promotional toolkit to help.

Recent statistics reveal that 58% of adults walked ten minutes and 6% cycled once a week or more to get somewhere in Wales. 78% of primary school children would prefer to travel actively to get to school – however 51% usually travelled by car.

Er mwyn helpu i hybu’r ffigurau hyn ac annog mwy i deithio’n gynaliadwy pan allant, Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio pecyn cymorth sy’n hyrwyddo cerdded, teithio ar olwynion a beicio, wedi’i ddatblygu ar y cyd ag awdurdodau lleol a’i greu ar eu cyfer.

Mae’r pecyn cymorth yn galluogi awdurdodau lleol i gael mynediad at ddeunyddiau hyrwyddo newydd ac mae’n cynnwys banc o dros 500 o ddelweddau o bobl yn cerdded, teithio ar olwynion a beicio yng Nghymru. Ei nod yw helpu awdurdodau lleol i hyrwyddo llwybrau cerdded a beicio yn eu hardal, gan helpu mwy o bobl i fanteisio arnynt.

Mae ymchwil yn dangos bod y delweddau a’r iaith a ddefnyddir wrth siarad â phobl am gerdded a beicio yn bwysig. Trwy ddangos amrywiaeth eang o brofiadau beicio bob dydd, nod y pecyn cymorth yw herio canfyddiadau pobl ynghylch y math o berson mae’n rhaid bod er mwyn gallu beicio a dangos ei fod yn hawdd ac ar gael i bawb.

Mae’n cynnwys syniadau ar gyfer negeseuon allweddol sy’n gweithio orau gyda gwahanol grwpiau ac enghreifftiau o ymgyrchoedd sydd wedi profi’n effeithiol, gan gynnwys astudiaethau achos o gynlluniau cerdded a beicio eraill yng Nghymru.

Dywedodd Nicola Grima, Arweinydd Cynllun Cyflawni Teithio Llesol Trafnidiaeth Cymru:

“Mae gan Gymru isadeiledd cerdded a beicio gwych. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl ei ddefnyddio. Dyna pam rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i roi’r offer iddyn nhw allu mynd ati i roi gwybod i bobl yn eu cymunedau am y llwybrau hyn a’u hannog i’w defnyddio.”

Mae un astudiaeth achos sydd wedi’i chynnwys yn y pecyn cymorth yn edrych ar seilwaith a gyflwynwyd ar Lwybr Beicio Cenedlaethol 5 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae un arall yn tynnu sylw at y gwelliannau a wnaed i bont Gladstone a Chogan ym Mro Morgannwg, a ariennir hefyd gan Lywodraeth Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle