Vaughan Gething AS, Y Prif Weinidog
Rydw i heno yn cyhoeddi newidiadau i fy nhîm Gweinidogol. Rwyf wedi gofyn i Jack
Sargeant, Aelod o’r Senedd dros Alun a Glannau Dyfrdwy, ymuno â fy nhîm fel y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Rwyf wedi ehangu cwmpas rhai portffolios Gweinidogol, tra byddaf yn cadw goruchwyliaeth ar gyfer trafodaethau parhaus gyda TATA yn gweithio’n agos gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a
Swyddfa’r Cabinet |
Rebecca Evans AS |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a
Materion Gwledig |
Huw Irranca-Davies AS |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Lynne Neagle AS |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Jayne Bryant AS |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gofal
Cymdeithasol a’r Gymraeg |
Eluned Morgan AS |
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a
Gogledd Cymru |
Ken Skates AS |
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a’r Prif Chwip | Jane Hutt AS |
Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol | Dawn Bowden AS |
Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol | Jack Sargeant AS |
Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar | Sarah Murphy AS |
Noder: Cynigiodd y Cwnsler Cyffredinol ei ymddiswyddiad i’w Fawrhydi y Brenin sydd wedi ei dderbyn. Mae adran 49 (6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn darparu bod y
swyddogaethau’n arferadwy gan berson a ddynodwyd gan y Prif Weinidog os yw Swyddfa’r Cwnsler Cyffredinol yn wag. Bydd cadarnhad o’r darpar Gwnsler Cyffredinol yn dilyn.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle