Gwneud y mwyaf o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yr haf hwn

0
400
Keep an eye out for Angharad, the Park Authority's Summer Ranger, who has plenty of advice and information about what to do and where to go.

O farchnadoedd crefftau lleol i weithdai dan arweiniad artistiaid, teithiau cerdded ystlumod a sesiwn planetariwm, gall trigolion ac ymwelwyr edrych ymlaen at amrywiaeth hyfryd o ffyrdd yr haf hwn i fwynhau unig barc Cenedlaethol Prydain sy’n wirioneddol arfordirol.

Dafliad carreg o Eglwys Gadeiriol Tyddewi a thraethau godidog, mae Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol yn Oriel y Parc yn fan cychwyn perffaith ar gyfer unrhyw antur dros wyliau’r haf. Gyda mynediad am ddim, mae’n cynnig cyfoeth o wybodaeth ar ble i ddod o hyd i’ch profiadau gorau yn y Parc Cenedlaethol – ynghyd â’r cyfle i logi e-feic ac archwilio cefn gwlad prydferth ond bryniog Tyddewi gyda chymorth modur trydan. Mae’r Ganolfan hefyd yn gartref i Amgueddfa Cymru yn Sir Benfro ac mae’n cynnwys rhaglen newidiol o arddangosfeydd ynghyd ag amserlen orlawn o weithgareddau a digwyddiadau drwy gydol gwyliau’r ysgol.

Y brif arddangosfa yn ystod y cyfnod hwn fydd Calon a Chymuned – RNLI 200, i ddathlu daucanmlwyddiant Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yn achub bywydau ar y môr. Yn ogystal â digonedd o gemau a gweithgareddau i’r teulu cyfan, bydd Calon a Chymuned hefyd yn cynnwys bad achub Arancia a rhywfaint o offer y RNLI i roi blas o achub ar y môr.

Mae arddangosfa Calon a Chymuned: RNLI 200 yn Oriel y Parc yn cynnig digon o gemau a gweithgareddau i’r teulu cyfan.

Am dâl ychwanegol, gall ymwelwyr iau gymryd rhan yn Llwybr Chwedlau’r Môr, lle byddant yn dod yn aelod o griw’r RNLI ac yn cwblhau tasgau ar yr ynysoedd a’r môr o amgylch Oriel y Parc i achub y rhai sydd mewn perygl ac ennill gwobr.

Dewch i ddarganfod amrywiaeth unigryw o grefftau wedi’u gwneud â llaw ym Marchnad Grefftau’r Haf yn Oriel y Parc ar ddydd Sadwrn 10 Awst rhwng 10am a 3pm, neu yn un o’n Ffeiriau Crefftau â Llaw, sy’n cael eu trefnu gan y Makers Bizarre. Cynhelir Ffeiriau Crefftau â Llaw yn y cwrt bob dydd Mawrth, o 23 Gorffennaf i 27 Awst, rhwng 10.30am a 4.30pm. Yn berffaith ar gyfer ychwanegu rhywfaint o gyfaredd leol i’ch cartref neu ddod o hyd i anrhegion unigryw, mae mynediad i bob marchnad am ddim.

Bydd sesiynau Clwb Dydd Mercher! yn cael eu cynnal drwy gydol gwyliau’r haf, gan gynnig amrywiaeth eang o weithgareddau celf a chrefft i feddyliau ifanc creadigol.

Mae’r sesiwn gyntaf wedi’i threfnu ar gyfer dydd Mercher 24 Gorffennaf, gyda sesiwn galw heibio Gweithdy Tlysau’r Môr rhwng 10am-3pm. Bydd y pedair sesiwn nesaf yn cael eu harwain gan artistiaid lleol ac yn cynnwys: Creu Siartiau Mordwyo Cefnforoedd gyda Hannah Rounding ar 31 Gorffennaf; Gweithdy Sêr a Cherrig Stori gyda Kerry Curson ar 7 Awst; Gludluniau Cychod Gwych gyda Kate Evans ar 14 Awst; a Darganfyddiadau Traeth – sesiwn Arlunio a Gwneud Marciau gyda Kate Freeman ar 21 Awst.

Bydd holl sesiynau Clwb Dydd Mercher! o dan arweiniad artistiaid rhwng 11am – 12pm a 1.30pm – 2.30pm ac mae cadw lle yn hanfodol.

Bydd Oriel y Parc yn cynnal amserlen lawn o weithgareddau a digwyddiadau drwy gydol gwyliau’r ysgol.

Gweithdy Clwb Dydd Mercher! olaf y gwyliau fydd Gweithdy Argraffu Gwymon. Digwyddiad galw heibio yw hwn ac nid oes angen cadw lle.

Ceir mwy o wybodaeth am arddangosfeydd Oriel y Parc, gweithgareddau’r haf a llogi e-feiciau yn www.orielyparc.co.uk.

Bydd digon o gyfleoedd i ddysgu am wahanol feysydd ac agweddau ar y Parc Cenedlaethol drwy raglen gyffrous yr Awdurdod o ddigwyddiadau’r haf.

Mae tocynnau dal ar gael ar gyfer tair taith gerdded o dan arweiniad Parcmyn drwy fryniau godidog y Preseli, gan fwynhau hanes, chwedlau a bywyd gwyllt y dirwedd hudol hon.

Bydd Taith Gerdded Craig Talfynydd i galon Bryniau’r Preseli yn cael ei chynnal ar ddydd Mercher 24 Gorffennaf a dydd Mawrth 13 Awst, ac mae llefydd dal ar gael ar gyfer Taith Gerdded Gylchol Carningli ar ddydd Gwener 23 AwstDylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes hynafol ystyried ymuno â Thaith Gerdded Foel Drygarn, a fydd yn cael ei chynnal ar ddydd Gwener 9 Awst a dydd Mawrth 27 Awst sy’n ymweld ag un o’r safleoedd archeolegol gorau yn y Parc.

Mae rhai teithiau cerdded hanesyddol gwych gyda thywyswyr gwybodus wedi’u trefnu ar gyfer yr haf, gan roi cyfle i ddysgu mwy am eich hoff leoedd – neu i ddarganfod rhai newydd. Cynhelir taith gerdded Nanhyfer – Cestyll a Phererinion ar ddydd Gwener 16 Awst, ac ar ddydd Gwener 30 Awst, bydd y daith gerdded Porthgain, Un Pentref, Tri  Diwydiant yn gyfle i archwilio un o rannau arfordirol mwyaf eiconig Sir Benfro.

Bydd Teithiau Cerdded Ystlumod poblogaidd Awdurdod y Parc yn parhau mewn gwahanol leoliadau drwy gydol Gorffennaf ac Awst, sef yr amser gorau o’r flwyddyn i weld y creaduriaid nos hynod ddiddorol hyn. Mae argaeledd synwyryddion ystlumod yn sicr o wneud hwn yn brofiad cofiadwy.

Yng Nghanolfan Gerallt ym Maenorbŷr, bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau cyfle unigryw i archwilio awyr y nos yng nghanol dydd ar 10 ac 11 Awst. Mae sawl
Sioe Planetariwm wedi’u trefnu yn ystod y ddau ddiwrnod mewn planetariwm eglur iawn 360° o’r radd flaenaf. Bydd y rhai sy’n bresennol yn gallu cychwyn ar daith rithwir drwy gysawd yr haul, glanio ar fydoedd eraill, hedfan drwy gylchoedd Sadwrn a rhyfeddu at Smotyn Mawr Coch y Blaned Iau. Mae pob sioe 45 munud yn cynnwys sylwebaeth arbenigol ac yn addas ar gyfer ymwelwyr 5 oed a hŷn.

Cofiwch fod cadw lle yn hanfodol ar gyfer pob taith gerdded a gweithgaredd o amgylch y Parc. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn  www.pembrokeshirecoast.wales/events

Bydd Angharad, Parcmon Haf Awdurdod y Parc hefyd allan drwy gydol y gwyliau, gyda digon o gyngor a gwybodaeth am leoedd i ymweld â nhw a phethau i’w gwneud. Os ydych chi’n chwilio am rai gweithgareddau i’r plant yr haf hwn, bydd Angharad hefyd yn cyflwyno rhai o ffefrynnau’r teulu fel trochi pyllau trai a sesiynau helfa bryfed. Beth am stopio i ddweud helo?


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle