Llynnoedd Llys-y-frân: Hwyl yr haf… boed law neu hindda!

0
94
Adventure Days Kayaking at Llys-y-fran

Dwr Cymru Welsh Water News

Peidiwch â gadael i’r tywydd chwit chwat yma ddifetha’ch gwyliau haf. Llynnoedd Llys-y-frân, cwta deng milltir i’r gogledd o Hwlffordd, yw’ch maes chwarae ym mhob tywydd, gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau i’ch diddanu trwy gydol gwyliau’r haf.

Ewch allan ar y dŵr…

Fydd ychydig bach o law ddim yn tarfu ar yr antur! Rydyn ni wir wedi mynd amdani eleni gyda chyrsiau hwylio a chychod pŵer achrededig bendigedig yr RYA (Cymdeithas Hwylio Frenhinol), sesiynau padlo a hwylio, a Chlwb Haf Hebogau Llys-y-frân.

Adventure Days at Llys-y-fran

Am fod y galw wedi bod mor uchel, mae Llys-y-frân wedi cyflwyno rhaglen Diwrnodau Antur yr Hebogau hefyd. Bydd y diwrnodau gweithgaredd prysur yma’n rhedeg rhwng 10am a 4pm dros dri diwrnod, a bydd yna weithgareddau tir sych hefyd, gan gynnwys hwylio, padlo, dringo a beicio mynydd. A’r cyfan am gwta £100 y plentyn!

Fel canolfan hyfforddi achrededig yr RYA, bydd Llys-y-frân yn cynnig Camau 1 a 2 Cynllun Hwylio yr RYA i Bobl Ifanc, a Chychod Pŵer Lefel 1 yr RYA, trwy gydol Gorffennaf ac Awst. Mae’r cyrsiau hyn yn cynnig amgylchedd diogel i bobl ifanc ddysgu dan arweiniad hyfforddwyr profiadol.

Bydd ein sesiynau padlo a hwylio antur yn llwyth o hwyl i blant ac yn gyfle i wneud ffrindiau newydd wrth ddysgu sut i badlo neu hwylio.  Am gost o gwta £20 am 2 awr, mae’r sesiynau fforddiadwy hyn yn ffordd berffaith o gyflwyno’ch plentyn i bleser padlo a hwylio!

Archery at Llys-y-fran

Nid anturiaethau dŵr yn unig sydd ar gael yn Llys-y-frân, mae gennym bob math o ddigwyddiadau tir sych cyffrous i ddiddanu’r teulu cyfan am y diwrnod. Heriwch eich canoloeswr mewnol a meistroli crefft saethyddiaeth, neu rhyddhewch eich coedwigwr mewnol trwy sesiynau taflu bwyeill cyffrous. Dringwch i’r entrychion wrth goncro ein wal ddringo, neu ewch yn wyllt ar ein Crazi-Bugz, ein cerbydau bach tir garw â chwe olwyn. Mwynhewch y golygfeydd godidog ar ddwy olwyn wrth logi beic mynydd, a rhowch gynnig ar y trac pympio i brofi eich sgiliau rheoli beic.

Ac ynghyd â hyn oll, bydd y Diwrnod Chwarae blynyddol ar y cyd â Chyngor Sir Benfro. Bydd y diwrnod llawn hwyl yma dydd Mercher, 7 Awst, yn cynnig diwrnod AM DDIM o gestyll neidio, adrodd straeon, gemau, chwarae blêr, hela chwilod a pheintio wynebau.  Pris parcio yw cwta £3 y diwrnod. Am ragor o fanylion ewch i https://www.facebook.com/events/403734062241161/

Climbing at Llys-y-fran

Peidiwch â cholli Ffair Crefftau’r Haf a gynhelir am y tro cyntaf dydd Sadwrn, 10 Awst, yn ein pabell fawr helaeth newydd. Mwynhewch y ffair grefftau yma sy’n cynnig MYNEDIAD AM DDIM â dros ugain stondin yn gwerthu cynnyrch a nwyddau lleol. Cefnogwch grefftwyr lleol a darganfod eitemau unigryw wedi eu creu â chariad gan unigolion dawnus o’r ardal leol ac ar draws Sir Benfro. Am ragor o fanylion ewch i: https://llys-y-fran.co.uk/events/summer-craft-fair/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle