Helpwch i lunio dyfodol gwasanaeth T5 TrawsCymru

0
87

Mae gwasanaethau bws pellter hirach TrawsCymru yn rhan bwysig o’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig yng Nghymru.

Dros yr wythnosau diwethaf mae tîm TrawsCymru Trafnidiaeth Cymru wedi bod allan i ymweld â chymunedau ar hyd llwybr T5, gan gynnwys Hwlffordd, Aberteifi ac Aberystwyth.

Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: “Cymerodd llawer o bobl yr amser i ddod i’r sesiynau galw heibio a dweud wrthym beth yr hoffent ei weld ar y llwybr pan gaiff ei ail-dendro yn ddiweddarach eleni.

“Cawsom ddigon o sgyrsiau cadarnhaol gyda theithwyr a rannodd eu profiadau teithio gyda ni a’u rhesymau dros ddefnyddio’r bws, ond clywsom hefyd am rai o’r rhwystredigaethau y mae pobl wedi’u hwynebu gyda’r gwasanaeth.

“Rydym wedi ystyried eu sylwadau, eu hawgrymiadau a’u blaenoriaethau a bydd y rhain yn ein helpu i lunio’r gwasanaeth yn y dyfodol.”

Os nad oeddech yn gallu mynychu unrhyw un o’r sesiynau galw heibio, peidiwch â cholli’ch cyfle i ddweud eich dweud – cwblhewch arolwg ar-lein TrC sydd ar agor tan 5 Awst 2024.Traws Cymru T5 Service Feedback (smartsurvey.co.uk) (English)

Gwasanaeth T5: Holiadur am y Gwasanaeth (smartsurvey.co.uk)

Wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae bysiau TrawsCymru yn darparu cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus hanfodol i lawer o gymunedau ledled Cymru, gan integreiddio â theithiau trên a hefyd rhoi opsiwn hygyrch, fforddiadwy ac ecogyfeillgar i ymwelwyr allu archwilio harddwch naturiol golygfeydd ein gwlad.

Lawrlwythwch ein ap i gynllunio’ch taith, prynu eich tocynnau, olrhain eich bws a darganfod faint o CO2 y byddech yn ei arbed.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle