Bydd cyllid grant yn trawsnewid adeilad gwag o oes Fictoria yn ‘ased hirdymor’

0
129

Mae prosiect i adnewyddu ac ailddechrau defnyddio adeilad o Oes Fictoria wedi derbyn cyllid grant yn Y Rhyl.

Mae hen adeilad Swyddfa’r Post yng nghanol y dref wedi bod yn wag ers bron i ddegawd ac mae ei gyflwr wedi parhau i ddirywio o flwyddyn i flwyddyn.

Bydd y prosiect adnewyddu yn golygu creu gofod masnachol a manwerthu o safon uchel ar y llawr gwaelod yn ogystal â dau fflat preswyl un ystafell wely.

Bydd y ddwy uned yn cydymffurfio â Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru (WDQR) 2021 yn ogystal â Safonau Cartrefi Gydol Oes, gan sicrhau bod y cartrefi o safon effeithlonrwydd modern ac yn fforddiadwy.

Bydd hyd at £650,000 yn cael ei ddarparu i Gyngor Sir Ddinbych o Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith gwella a throsi.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Jayne Bryant: “Rwy’n falch ein bod, trwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi, yn gallu cefnogi trawsnewid yr adeilad treftadaeth hwn yn ased hirdymor i’r dref.

“Rydym yn gwybod bod y galw am unedau adwerthu llai ac un ystafell wely yn uchel yn yr ardal felly mae’n wych gweld y bydd ein Grant Creu Lleoedd yn cefnogi’r gwaith adnewyddu ac yn darparu tai y mae mawr eu hangen ar y gymuned.

“Mae dod ag adeiladau gwag a segur yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol yn un o bileri allweddol ein rhaglen Trawsnewid Trefi a byddwn yn parhau â’n gwaith gyda Cyngor Sir Ddinbych i greu canol trefi a dinasoedd bywiog.”

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Rwy’n croesawu’r gefnogaeth sy’n cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru yn fawr i alluogi Cyngor Sir Ddinbych i gyflawni’r prosiect hwn.

“Ynghyd â chynlluniau tebyg eraill ar y Stryd Fawr sy’n derbyn cefnogaeth drwy’r rhaglen Trawsnewid Trefi ac sydd ar hyn o bryd yn y cam dylunio technegol, bydd yn cyfrannu tuag at gyflawni Uwchgynllun a Gweledigaeth Canol Tref y Rhyl y cytunwyd arno yn flaenorol drwy godi safon y trawsnewidiadau preswyl yng nghanol y dref a defnyddio lloriau uwch gwag ar gyfer llety preswyl ynghyd â phrosiectau eraill.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle