Dydd Sadwrn, 10 Awst, rhwng 10am a 4pm, bydd Llys-y-frân yn cynnal Ffair Grefftau’r Haf. Cynhelir y digwyddiad yma yn ein pabell fawr newydd sbon, a bydd yn arddangos gwaith rhai o grefftwyr a chynhyrchwyr gorau Sir Benfro. Bydd mynediad i’r achlysur am ddim.
Caiff ymwelwyr gyfle i weld amrywiaeth eang o grefftau lleol, ân gynnwys gwydr, nwyddau lledr, serameg a gwaith metel unigryw.
Bydd Beachcomb Creations yn arddangos darnau wedi eu gwneud â llaw o froc môr, gwydr traul môr a chrochenwaith traul môr oll wedi eu casglu o draethau Sir Benfro. Bydd Annie Wood Artist o Dresaith, peintiwr tirluniau sy’n cael ei hysbrydoli gan ecoleg a hanes naturiol lleol ac sy’n angerddol am ddangos cyfrinachau prydferthwch cudd byd natur, yma hefyd.
Bydd Cruising Free Atlantic Row 2025, pedair menyw o Sir Benfro sy’n paratoi i rwyfo dros Fôr Iwerydd yn 2025 yn gwerthu cardiau cartref, bagiau, a chrysau t a hwdis wedi eu hargraffu’n lleol, gyda’r holl elw’n mynd at eu hantur mawr.
Bydd The Thread Room, busnes teuluol dwy chwaer yng nghyfraith, Jane a Sarah, yn arddangos bagiau traeth a bagiau cario ymarferol wedi eu hysbrydoli gan dirweddau lleol. Maen nhw’n creu darnau llai o ddefnydd dros ben ac yn addysgu pobl i wnïo yn Neyland hefyd.
Mae Llys-y-frân yn cynnig amrywiaeth o anturiaethau ar y dŵr ac ar dir sych, gan gynnwys chwaraeon dŵr, pysgota, beicio, cerdded, saethyddiaeth, Crazi Bugz, wal ddringo a thaflu bwyeill. Mae’r ganolfan ymwelwyr yn cynnwys caffi a siop anrhegion, lle gall ymwelwyr fwynhau tamaid, codi map, a chwilio am gofroddion o Gymru.
A gallwch fwynhau gwersylla yn yr hafan wledig yma yn Sir Benfro hefyd. Yn ddigon agos at gyffro Dinbych-y-pysgod a Thyddewi, ond yn ddigon pell i ffwrdd i fwynhau gwyliau tawel. Mae’r gwersyll yn edrych dros y llyn ac mae’n cynnig safleoedd glaswellt a chaled o safon uchel, gyda nifer dda o gysylltiadau trydan. Am fanylion: https://llys-y-fran.co.uk/camping-west-wales/.
Mae Llys-y-frân wedi ennill Gwobr Dewis y Teithwyr 2024 TripAdvisor, am ddenu adolygiadau cyson uchel gan gwsmeriaid am yr ail flwyddyn yn olynol.
Oriau Agor
Dydd Llun – dydd Sul 9am – 5pm
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llys-y-frân: https://llys-y-fran.co.uk/
Gwybodaeth Cyswllt
Emily Fearn |
Marketing Officer |
Emily.Fearn@dwrcymru.com |
Nodiadau i olygyddion
Nodiadau i’r golygydd
Am fanylion pellach am Gronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, cysylltwch â:
Sally Walters – Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu’r Atyniadau Ymwelwyr
T: 07747 268411 E: sally.walters@dwrcymru.com
Mae Dŵr Cymru’n unigryw yn y diwydiant dŵr am ei fod mewn perchnogaeth ar ran ei gwsmeriaid
- Mae’r cwmni wedi bod yn eiddo i Glas Cymru ers 2001. Cwmni a sefydlwyd yn Ebrill 2001 yn unswydd at ddibenion caffael a pherchen ar Ddŵr Cymru yw Glas Cymru.
- Nid oes unrhyw gyfranddeiliaid gan y cwmni, ac mae’r holl elw ariannol yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes er budd y cwsmeriaid
- Mae Dŵr Cymru yn buddsoddi’n drwm ac yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu’n cael gwasanaethau o’r safon uchaf
- Bydd y cwmni’n buddsoddi £1.8 biliwn yn ei rhwydweithiau dŵr a charthffosiaeth rhwng 2020 a 2025.
- Mae’r cwmni’n gwasanaethu’r rhan fwyaf o Gymru, Glannau Dyfrdwy a Sir Henffordd. Y cwmni yw’r mwyaf ond pump o 10 cwmni dŵr a charthffosiaeth Cymru a Lloegr.
Ymholiadau i swyddfa’r wasg, Dŵr Cymru Welsh Water ar 01443 452452 / press@dwrcymru.com
Dadlwythiadau
Beachcomb Creations |
major Jewellery |
Cwm Deri |
Annie Wood Art |
Email not displaying correctly? View it in your browser.
If you’d rather not receive these emails, please use the following unsubscribe link: Unsubscribe | Journalist Privacy Policy
Powered by Onclusive PR Manager © 2024
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle