Cynnydd mewn refeniw i reilffyrdd Cymru

0
170
TfW_annual report

Mwy o drenau newydd, cynnydd yn y defnydd o wasanaethau bysiau allweddol a ffyrdd arloesol o brynu tocynnau yw rhai o’r uchafbwyntiau yn adroddiad blynyddol Trafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw.

Mae cyflwyno 46 trên newydd sbon ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn ogystal â chyflwyno gwelliannau i amserlenni wedi helpu i leihau canslo a chynyddu ffigurau refeniw’r rheilffyrdd, gyda mwy o bobl yn dewis manteisio i’r eithaf ar y cyfforddusrwydd, y cyflymder a’r capasiti a gynigir gan y trenau newydd.

Mae’r arloesedd a welwyd yn y systemau archebu tocynnau newydd yn cynnwys lansio tocynnau Talu Wrth Fynd. Lansiwyd y system fel cynllun peilot i ddechrau gyda, ar deithiau trên rhwng Caerdydd Canolog, Casnewydd a Phont-y-clun, ac mae bellach wedi’i ehangu i gynnwys Glyn Ebwy. Fe welwyd twf o 30% yng ngwerthiant tocynnau ar draws ap TrC.

Ym mis Chwefror 2024 lansiodd TrC wasanaeth newydd Glyn Ebwy i Gasnewydd, sydd wedi chwyldroi’r ddarpariaeth sydd ar gael i gymunedau lleol, gan ddyblu nifer y trenau yr awr, sydd wedi helpu i wella cysylltedd at ddibenion gwaith, addysg a hamdden.

Yn ei adroddiad Blynyddol diweddaraf (2023/24), datgelodd y sefydliad trafnidiaeth nid-er-elw ei fod hefyd wedi gweld cynnydd o 25% yn nifer y teithwyr sy’n defnyddio gwasanaethau bysiau TrawsCymru

TfW_year at a glance.

Mae’r gwasanaeth T1 blaenllaw rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth wedi gweld cynnydd o 65 y cant yn nifer y teithwyr, tra bod gwasanaeth bws y Sherpa, sy’n gweithredu yn Eryri, wedi gweld cynnydd o 64 y cant o’i gymharu â 2019. Mae’r gwasanaeth T8 yn Rhuthun hefyd wedi gweld nifer y teithwyr yn cynyddu gan dros 9,500 y mis.

Mae TrC hefyd wedi llwyddo i ddarparu £46m mewn cyllid teithio llesol sy’n cefnogi 250 o gynlluniau teithio llesol a ddatblygwyd ar y cyd ag awdurdodau lleol ledled Cymru. Yn ystod 2023/24, cyflwynwyd dros 30 o lwybrau cerdded newydd o orsafoedd hefyd.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi bod ar daith o drawsnewid mawr yn TrC ac rydym bellach yn dechrau gweld manteision ein buddsoddiadau.

“Gyda gwell gwasanaethau a threnau gwell, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y teithwyr sydd, yn ei dro, wedi helpu i gynyddu refeniw ein rheilffyrdd gan 15%. Byddwn yn anelu at gynnal y cynnydd hwn wrth i ni barhau i gyflwyno mwy o drenau newydd fel rhan o’n buddsoddiad o £800 miliwn, yn ogystal â gwneud addasiadau i’n hamserlenni.

“Ein gweledigaeth yw cael ein dewis fel ‘hoff ffordd Cymru o deithio’ a gallwn wneud hyn drwy barhau â’n buddsoddiad i rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig.  Rydym wedi gweld cynnydd o 25% yn nifer y teithwyr sy’n defnyddio ein gwasanaethau bws TrawsCymru ac yn ddiweddar fe wnaethom agor Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd newydd, a fydd yn gwella cysylltiadau rhwng trenau a bysiau.

“Rydym wedi dosbarthu £46 miliwn o gyllid teithio llesol a fydd yn gwella llwybrau cerdded, beicio ac olwynio lleol gan wella cysylltedd lleol, ac rydym wedi lansio dros 30 o lwybrau cerdded newydd sy’n dechrau o’n gorsafoedd rheilffordd ledled Cymru.”

I weld yr Adroddiad Blynyddol llawn – cliciwch yma


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle