St John Ambulance Cymru yn derbyn £10,000 i hybu hyfforddiant cymorth cyntaf cymunedol

0
142
SJAC_ECOFLOW

Mae EcoFlow, cwmni blaenllaw ym maes datrysiadau ynni cludadwy ac ecogyfeillgar, wedi cynyddu ei gefnogaeth i St John Ambulance Cymru drwy bartneriaeth a fydd yn helpu i gyflwyno agwedd hanfodol o waith yr elusen yng Nghymru.

Bydd y gefnogaeth hael hon yn caniatáu i elusen cymorth cyntaf Cymru greu mwy o achubwyr bywydau ledled y wlad trwy arddangosiadau cymorth cyntaf am ddim mewn ysgolion a grwpiau cymunedol lleol.

Mae EcoFlow yn gwmni byd-eang, sy’n arbenigo mewn cynhyrchion pŵer cludadwy, technoleg solar a datrysiadau ynni cartref craff. Bydd y nawdd yn talu costau rhedeg bron i 70 o arddangosiadau cymorth cyntaf am ddim dros 12 mis.

Daw’r cyllid ar ôl i EcoFlow gefnogi St John Ambulance Cymru yn 2023 drwy gyfrannu gwresogydd cludadwy i gadw gwirfoddolwyr yn gynnes tra allan ar ddiwrnodau oerach.

Mae St John Ambulance Cymru yn cynnal arddangosiadau cymunedol ar gyfer disgyblion ysgol a grwpiau cymunedol ledled Cymru trwy gydol y flwyddyn, gan arfogi pobl â sgiliau cymorth cyntaf sylfaenol a all olygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth mewn argyfwng.

SJAC_ECOFLOW

Cynhaliwyd y cyntaf o’r sesiynau arddangos noddedig yn ddiweddar yn Ysgol Glanhowy yn Nhredegar, lle dysgodd pobl ifanc bopeth am hanfodion cymorth cyntaf gyda Hyfforddwr Cymunedol St John Ambulance Cymru, Lesa. Daeth cynrychiolydd EcoFlow, Lorna Wallace-Smith draw i’r sesiwn, i weld sut roedd eu rhodd hael yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Dywedodd Lorna, Pennaeth Cyfathrebu EcoFlow yn y DU: “Yma yn EcoFlow rydym wrth ein bodd i weithio mewn partneriaeth ag St John Ambulance Cymru, i gefnogi eu gweithgareddau hyfforddi hanfodol ledled Cymru, fel rhan o’n rhaglen cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ‘Power for All’, sydd eleni yn canolbwyntio ar gefnogi prosiectau achub ac atal trychineb.

“Mae’r cydweithio hwn yn ein galluogi i gyfrannu at les a diogelwch cymunedau drwy ariannu sesiynau arddangos ac ymwybyddiaeth mewn ysgolion a grwpiau cymunedol ledled Gogledd, De a Gorllewin Cymru. Rydym yn credu mewn grymuso unigolion gyda’r wybodaeth a’r sgiliau i ymateb i argyfyngau, ac mae’r bartneriaeth hon yn amlygu ein hymrwymiad i feithrin cymunedau gwydn a gwybodus. Gyda’n gilydd, rydym yn cael effaith sylweddol ar iechyd a diogelwch y cyhoedd.”

SJAC_ECOFLOW

 

 Dywedodd Nichola Couceiro, Pennaeth Codi Arian, Cyfathrebu ac Ymgysylltu St John Ambulance Cymru: “Hoffem ddiolch o galon i bawb yn EcoFlow am eu cefnogaeth hael ar yr adeg hon.

 “Mae ein harddangosiadau cymunedol rhad ac am ddim yn rhoi’r hyder a’r sgiliau i bobl helpu rhywun mewn argyfwng meddygol, ac o bosibl achub bywyd. Gyda chefnogaeth EcoFlow, gallwn barhau â’r gwaith hanfodol hwn gan rannu sgiliau achub bywyd gyda phobl Cymru, gan weithio tuag at ein gweledigaeth: cymorth cyntaf i bawb, unrhyw bryd, unrhyw le.”

 Fel elusen, mae St John Ambulance Cymru yn dibynnu ar haelioni’r cyhoedd a busnesau fel EcoFlow i barhau â’i waith achub bywyd. Bydd y rhodd anhygoel hon yn galluogi St John Ambulance Cymru i barhau i achub bywydau a gwneud cymunedau ledled Cymru yn fwy diogel i bawb.

 I ddarganfod mwy am fenter cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol EcoFlow “Power For All”, ewch i https://www.ecoflow.com/uk/powerforall.

 Os hoffech gefnogi elusen cymorth cyntaf Cymru drwy wneud cyfraniad corfforaethol neu gynnal digwyddiad codi arian, cysylltwch â’r Tîm Codi Arian drwy e-bostio fundraising@sjacymru.org.uk neu ffonio 02920 449 626.

 I gael gwybod mwy am waith hanfodol yr elusen, ewch i www.sjacymru.org.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle