Mae Bouygues UK wedi dechrau’r gwaith i drawsnewid hen siop adwerthu yng Nghaerfyrddin yn hwb iechyd, lles, addysgol a hamdden arloesol a fydd yn cynnwys canolfan adloniant teuluol o’r radd flaenaf.
Fel y contractwr arweiniol ar y prosiect, mae Bouygues UK bellach yn gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Gâr, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, i ail-bwrpasu’r adeilad a fydd yn darparu amrywiaeth eang o gyfleusterau o dan yr un to – bydd hyn yn cael ei alw’n Hwb Iechyd a Lles Caerfyrddin.
Ar ôl iddo gael ei gwblhau, bydd trigolion Sir Gaerfyrddin yn gallu cael mynediad at wasanaethau iechyd cymunedol yn yr Hwb Iechyd a Lles a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Ochr yn ochr â gwasanaethau iechyd a lles, bydd yr adeilad ar ei newydd wedd yn ffurfio partneriaeth gydag Actif Sport and Leisure i hwyluso campfa 24 awr newydd, a fydd yn cynnwys offer o’r radd flaenaf, ac ystafelloedd ffitrwydd hyblyg ar gyfer sesiynau ymarfer grŵp ac unigol.
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn cyflwyno darpariaeth amser hamdden unigryw ar gyfer yr ardal, gyda chanolfan adloniant teuluol o’r radd flaenaf a fydd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau y gall yr hen a’r ifanc eu mwynhau gyda’i gilydd, gan gynnwys golff antur dan do, chwarae meddal tref deganau, ceirt modur trydanol a TAG Active. Bydd y ganolfan adloniant hefyd yn gartref i gaffi ac ystafelloedd parti.
Caiff yr hwb ei leoli yn hen siop adrannol Debenhams yn Rhodfa’r Santes Catrin, Caerfyrddin, ac ar ôl iddo agor i’r cyhoedd, disgwylir y bydd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref ac yn ysgogi gwydnwch economaidd pellach i fasnachwyr a manwerthwyr lleol. Pan gaeodd y siop adrannol ym mis Mai 2021, roedd yr effaith ganlyniadol ar fasnach yng nghanol y dref yn sylweddol. Y gobaith yw y bydd yr Hwb hollgynhwysol newydd – sef y cyntaf o’i fath yn Sir Gaerfyrddin – yn annog mwy o bobl o’r rhanbarth i ganol y dref i fanteisio ar y gwasanaethau cyhoeddus a hamdden a fydd ar gael o dan yr un to.
Mae Bouygues UK eisoes wedi bod yn gweithio’n agos gydag isgontractwyr o’r ardal ar ei brosiect mawreddog arall ym Mhentre Awel yn Llanelli, a bydd yn parhau i wneud hynny yn Hwb Sir Gaerfyrddin – gydag ymrwymiad pellach i uwchsgilio pawb sy’n gweithio yn ei gadwyn gyflenwi ar bwysigrwydd ymgorffori cynaliadwyedd yn eu gwaith.
Meddai John Boughton, Rheolwr Gyfarwyddwr Bouygues UK Cymru: “Mae’n wych gweithio ochr yn ochr â Chyngor Sir Gâr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar yr Hwb, gan roi bywyd newydd i bron 8,000 metr sgwâr o ofod masnachol yng nghanol y dref.
“Trwy adnewyddu’r hen siop adrannol yn hytrach nag ei ailadeiladu, byddwn ni’n alinio ymrwymiad Bouygues UK i hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol, a byddwn ni’n parhau i wneud hynny wrth inni weithio ar yr Hwb gyda’n cadwyn gyflenwi leol. Bydd yn ganolfan hanfodol a hygyrch yn y gymuned ar gyfer addysg, iechyd a hamdden.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Bydd datblygiad yr Hwb Iechyd a Lles yn hybu’r economi leol yn sylweddol ac yn cynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol tref Caerfyrddin. Mae cymorth ariannol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi bod yn hanfodol er mwyn inni fod mewn sefyllfa i gyflawni’r prosiect hwn ar gyfer canol ein tref. Bydd yn lle i bobl leol allu cael mynediad hawdd at wasanaethau gofal iechyd rheng flaen, yn ogystal â gwasanaethau a ddarperir gan gynghorwyr Gwasanaethau Cwsmeriaid ymroddedig ein Cyngor.
“Mae’r Ganolfan Adloniant Teuluol yn weithgaredd dan do ar gyfer pob tywydd i deuluoedd gymryd rhan ynddo waeth beth fo’u hoedran. Mae’r cyfleusterau yn y Ganolfan Adloniant wedi’u teilwra i hyrwyddo bywydau iach ac egnïol i bawb. Mae’r Ganolfan Adloniant yn pontio’r cenedlaethau, sy’n golygu y gall plant ac oedolion gymryd rhan. Rwy’n edrych ymlaen at gadw llygad barcud ar sut mae’r Hwb Iechyd a Lles yn symud ymlaen o ran ei ddatblygiad.”
Ychwanegodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous. Bydd y cynnig hwn yn dod ag amrywiaeth eang o wasanaethau iechyd a lles ynghyd mewn lleoliad canolog. Ochr yn ochr â gwasanaethau eraill, bydd o fudd i’n cymuned leol yng Nghaerfyrddin a’r cyffiniau, yn awr ac yn y dyfodol. Rydyn ni’n ymlaen at weithio gyda’n partneriaid a gweld y datblygiad yn symud ymlaen dros y misoedd nesaf.”
Dywedodd yr Athro Elwen Evans, KC, Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: “Mae datblygiad yr Hwb Iechyd a Lles yn cynnig cyfle unigryw i gydweithio â phartneriaid i archwilio ffyrdd o adfywio canol y dref trwy gymysgedd o gyfleoedd hamdden, diwylliannol ac addysgiadol. Mae’r Brifysgol yn edrych ymlaen at barhau â’i pherthynas waith agos â Chyngor Sir Gâr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y fenter hon, sydd â’r nod o fod o fudd i drigolion a busnesau.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle