Mae gwasanaeth Cymorth i Deithwyr yn rhoi hyder i gwsmeriaid deithio

0
148
Passenger Assist

Mae’r nifer uchaf erioed o bobl wedi defnyddio gwasanaeth cymorth teithwyr Trafnidiaeth Cymru yn ôl ffigurau newydd.

Archebodd mwy na 61,000 o bobl gymorth ymlaen llaw yn 2023/24, cynnydd o 20% ar y flwyddyn flaenorol.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Profiad Cwsmer Jo Foxall fod y ffigyrau’n dangos bod gan bobol “fwy o hyder i deithio a chael mynediad i’r cymorth sydd ar gael”.

Meddai: “Rydym wedi cyflwyno Cyfeillion Teithio yn rhai o’n gorsafoedd prysuraf ac wedi cael adborth gwych ar eu dull ystwyth o gefnogi cwsmeriaid wyneb yn wyneb mewn gorsafoedd ac fel rhan o’r gwaith y maent yn ei wneud ar gyfer Cysylltiadau Cwsmeriaid.

“Yn y pen draw rydym eisiau helpu i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch i bawb beth bynnag fo’u hanghenion unigol ac mae ein gwasanaeth cymorth i deithwyr yn un ffordd yn unig o wneud hynny.

“Mae’r cynnydd yn y nifer sy’n gofyn am gymorth yn dangos bod gan bobl fwy o hyder wrth deithio a chael mynediad i’r cymorth sydd ar gael.”

Mae cymorth i deithwyr ar gael i bob cwsmer sydd angen y cymorth ychwanegol er mwyn gallu cwblhau eu taith yn ddiogel ac yn effeithlon oherwydd efallai na fyddent wedi teithio hebddo, yn enwedig y rheini â nam ar eu golwg neu eu symudedd.

Mae’n ddull hanfodol o deithio ar y trên. Rydyn ni eisiau i bawb deithio’n hyderus. Dyna pam, os ydych chi’n bwriadu teithio gyda ni, gallwch ofyn am cymorth ymlaen llaw – nawr hyd at 2 awr cyn y disgwylir i’ch taith ddechrau, unrhyw adeg o’r dydd.

Gallwch bob amser “droi lan a mynd” heb ofyn am cymorth ymlaen llaw, neu os ydych wedi archebu lle ar-lein nad yw wedi’i gadarnhau eto. Byddwn yn darparu cymorth i fynd â chi i ben eich taith.

Yn ogystal â’r cyfeillion teithio, rydym wedi bod yn buddsoddi mewn mannau newid newydd mewn gorsafoedd allweddol o amgylch y rhwydwaith yn Amwythig, Bangor, Caer a Chaerfyrddin.

Amrediad Dyddiad Cymorth i deithwyr
Ebrill 2023 i Fawrth 2024 61,230
Ebrill 2022 i Fawrth 2023 50,933
Ebrill 2021 i Fawrth 2022 33,232
Ebrill 2020 i Fawrth 2021 6,215
Ebrill 2019 i Fawrth 2020 55,580
Ebrill 2018 i Fawrth 2019 60,443
Ebrill 2017 i Fawrth 2018 60,084
Ebrill 2016 i Fawrth 2017 56,849
Ebrill 2015 i Fawrth 2016 55,696
Ebrill 2014 i Fawrth 2015 50,913
Ebrill 2013 i Fawrth 2014 47,601
Ebrill 2012 i Fawrth 2013 46,285

(Ffigurau ar gyfer Rhwydwaith Cymru a’r Gororau Trwy ORR)

I fyny ac i lawr Cymru a’r Gororau, mae ein tîm Rheilffyrdd Cymunedol yn gweithio gydag ysgolion, elusennau a grwpiau lleol gyda’r cynllun Hyder i Deithio gan wneud pobl yn ymwybodol o’r hyn rydym yn ei gynnig a’r cymorth y gallwn ei roi.

Yn ogystal â Cymorth i Deithio, rydym hefyd yn cefnogi’r Cynllun Waled Oren sy’n helpu pobl sy’n cael trafferth cyfathrebu ar drafnidiaeth gyhoeddus, y Cynllun Laniard Blodau’r Haul a’r app BSL i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle