Fideo: https://www.youtube.com/watch?v=9aSKZFGvlvY
Mae Prosiect Geneteg Defaid Cymru (WSGP) Cyswllt Ffermio yn helpu i hwyluso newid mawr mewn diadell ddefaid ar raddfa fawr.
Bu Ystâd y Rhug ger Corwen yn rhedeg diadell agored o 3,750 o ddefaid miwl o’r math Gogledd Lloegr, ond mae bellach yn newid i ddiadell gaeedig o famogiaid Cymreig.
Mae’n defnyddio hyrddod y caiff eu perfformiad ei gofnodi i gynhyrchu ei hŵyn benyw croesfrid amnewid ei hun a’r math o ŵyn tew y mae’r busnes yn eu hystyried yn allweddol i broffidioldeb yn y dyfodol.
Mae technoleg sy’n seiliedig ar adnabod electronig (EID) yn chwarae rhan fawr yn hyn o beth, gan ddarparu data i helpu i reoli penderfyniadau bridio wrth ganiatáu i’r fferm gau ei diadell a bridio ei hepiliaid amnewid ei hun.
Dywed rheolwr y fferm, Emyr Owen, fod cymhorthfa gyngor gyda’r cynghorydd defaid a bîff annibynnol, Matt Blyth, a drefnwyd ac a ariannwyd gan y WSGP, wedi bod yn rhan annatod o’r penderfyniad i ailwampio’r system cofnodi perfformiad EID gyfan.
“Roedd y cyfarfod hwnnw gyda Matt yn help enfawr; fe ddechreuodd y sgwrs,” cofia Emyr. “Mae wedi bod yn wych cael y gefnogaeth honno.”
Newidiwyd i’r famog Gymreig yn rhannol oherwydd y profwyd bod y brîd yn ffynnu yn yr ardal mewn systemau wyna awyr agored.
Yn hanesyddol, mae diadell iseldir y Rhug wedi bod yn wyna dan do o 15 Mawrth, ond yn y dyfodol dim ond mamogiaid sy’n cario tripledi fydd yn wyna dan do.
Bydd y gweddill yn wyna yn yr awyr agored, o ddiwedd mis Mawrth tan 15 Ebrill, er mwyn cyd-fynd yn well â chromlin twf glaswellt yr ystâd.
“Mae gennym sied anhygoel ar gyfer wyna ac rydyn ni am wneud y mwyaf o enedigaethau byw, felly mae’n synhwyrol wyna tripledi dan do, ond bydd gweddill y mamogiaid yn wyna y tu allan,” meddai Emyr.
Hyrddod Texel a Charollais a ddefnyddid yn flaenorol, ond ar gyfer tymor wyna 2024, defnyddiwyd hyrddod Abermax, Aberblack, Hampshire Down a Primera, gyda pherfformiad pob un wedi’i gofnodi.
Prynwyd hefyd hyrddod Cymreig, y caiff eu perfformiad ei gofnodi, yn arwerthiant Prohill yn 2023; roedd y pryniannau hyn yn seiliedig ar gywirdeb corfforol a ffigurau, ac roedd ganddynt gysondeb â’r math o famogiaid Cymreig y mae tîm y Rhug yn anelu at ei gynhyrchu.
Daeth y mamogiaid Cymreig o ffermydd sy’n cofnodi perfformiad, gyda phob un o’r tair diadell yn rhan o’r WSGP.
Mae diadell y Rhug hefyd wedi ymuno â’r WSGP. “Rydyn ni’n wirioneddol ddiolchgar i fod yn rhan o’r rhaglen, ac mae prynu’r mamogiaid o ffermydd sy’n cofnodi perfformiad yn golygu ein bod ni wedi ennill cwpl o flynyddoedd ar unwaith,” meddai Emyr.
Mae EID yn rhan fawr o’r system ddefaid newydd ar Ystâd y Rhug.
Prynwyd pen pwyso newydd, gyda chymorth grant o 40% gan Gynllun Effeithlonrwydd Grantiau Bach Llywodraeth Cymru.
“Roedden ni wedi bod yn defnyddio pen pwyso ar gyfer y gwartheg ers blynyddoedd ond doedd gennym ni ddim byd ar gyfer y defaid,” eglura Emyr.
Fe’i defnyddir ar y cyd â darllenydd ffon a’i integreiddio â meddalwedd Agriwebb.
“Y cynllun yw dod yn fusnes cwbl ddibapur,” meddai Emyr.
Mae ŵyn yn cael eu tagio adeg eu diddyfnu ac mae data, gan gynnwys enillion pwysau byw dyddiol a phwysau lladd, yn cael eu cofnodi a’u monitro.
Mae buddion hyn eisoes i’w gweld, meddai Emyr. “Mae gennym fugail ifanc â gofal am wyna’r mamogiaid Cymreig ac mae wedi bod yn defnyddio’r darllenydd ffon i ychwanegu sylwadau am unrhyw famogiaid neu ŵyn y mae ganddo bryderon yn eu cylch fel y gallwn osgoi bridio o anifeiliaid problemus.”
Yr uchelgais yw rhedeg y ddiadell mewn tri grŵp mewn system ABC. Y defaid yn y grŵp A fydd y rhai sy’n ‘ddi-fai’ gan y byddant yn cynhyrchu’r defaid amnewid ar gyfer y ddiadell famog Gymreig gnewyllol.
Dywed Emyr mai’r nodwedd sy’n cael ei monitro agosaf yw sgôr cyflwr corff (BCS) mamogiaid. “Mae’r BCS yn dweud cymaint o bethau wrthym yn y metrig, a gallwn yn syml adeiladu protocolau a dangosyddion perfformiad allweddol o’i gwmpas.”
Yn nhymor wyna 2024, roedd y ganran sganio ymhlith y mamogiaid a oedd yn wyna dan do ar gyfartaledd yn 185%, a 160% ar gyfer y ddiadell oedd yn wyna allan. Ar gyfer y mamogiaid Cymreig, roedd yn 135% ond, gan fod dwy ran o dair o’r rhain yn flwyddiaid, y nod yw cynyddu hyn i 150%.
Bydd pum cant o ŵyn benyw Cymreig pur yn cael eu cadw eleni fel ŵyn amnewid tra bydd cyfran fawr o’r ŵyn tew yn cael eu prosesu ar y fferm a’u gwerthu drwy siop fferm Ystâd y Rhug. Bydd y gweddill yn cael ei farchnata trwy Pilgrims, ABP neu farchnad da byw Rhuthun.
Er mai megis dechrau mae’r daith i wella geneteg a phroffidioldeb y ddiadell, dywed Emyr fod ei hyder yn y canlyniadau a dargedir wedi’i atgyfnerthu gan y cymorth a dderbyniwyd drwy Cyswllt Ffermio a’r WSGP.
“Mae gweithdai awr o hyd yn syniad da gan Cyswllt Ffermio. I’r rhan fwyaf o bobl, awr yw’r cyfan sydd ei angen ond mae rhagor o gefnogaeth ar gael o rannau eraill o raglen Cyswllt Ffermio os oes angen.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle