Adroddiad newydd yn dangos gwerth graddau mewn y celfyddydau a dyniaethau i Gymru

0
220
Mae papur newydd wedi herio rhagdybiaethau o raddau’r celfyddydau a’r dyniaethau, gan ddangos y gwerth y maent yn ei roi i’r economi a chymdeithas.
Mae Newid y naratif: rhoi gwerth ar raddau yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru ar ran y Brifysgol Agored, yn amlygu pwysigrwydd sgiliau trosglwyddadwy y gall graddedigion y celfyddydau a’r dyniaethau eu cyflwyno i’r gweithle – gan gynnwys meddwl yn greadigol, meddwl dadansoddol, a llythrennedd technolegol.
Ysgrifennwyd y papur gan Dr Richard Marsden a Dr Anna Plassart, uwch ddarlithwyr mewn Hanes yng Nghyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol Agored. Mae’n dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd yn gynharach eleni, a gefnogwyd gan y Gymdeithas Ddysgedig a History UK, lle daeth academyddion, cyflogwyr, myfyrwyr a melinau trafod ynghyd i drafod sut mae graddedigion yn y sector hwn yn gwrth-ddweud rhai o’r naratifau camarweiniol am eu rhagolygon cyflogaeth.
Dywedodd Dr Richard Marsden, uwch ddarlithydd, Y Brifysgol Agored yng Nghymru:
“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae wyth o’r deg sector sy’n tyfu gyflymaf yn economi’r DU wedi cyflogi mwy o raddedigion o’r celfyddydau, y dyniaethau a hefyd y gwyddorau cymdeithasol nag o unrhyw ddisgyblaethau eraill.”
Dywedodd Dr Anna Plassart, uwch ddarlithydd, Y Brifysgol Agored:
“Mae meddu ar sgiliau trosglwyddadwy hefyd yn golygu bod gan raddedigion y celfyddydau a’r dyniaethau fwy o ddewisiadau gyrfa a mwy o hyblygrwydd o fewn y gweithlu na rhai llawer o ddisgyblaethau eraill.”
Mae’r papur yn argymell bod prifysgolion yn gweithio gyda chyflogwyr i helpu myfyrwyr y celfyddydau a’r dyniaethau i fynegi gwerth eu graddau, yn ogystal â gweithio gydag ysgolion i leihau’r gostyngiad yn y rhai sy’n dewis graddau yn y meysydd hyn.

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle