YMUNODD Ysgrifennydd Addysg Cymru, Lynne Neagle, â myfyrwyr yn dathlu canlyniadau Safon Uwch rhagorol yng Ngholeg Cambria Iâl.

0
219
Education Secretary - Keith Freeburn. Also pics of Freya Owen, and Matt Smart (left) and Ellis Eccleston.

Bu Aelod Seneddol Torfaen yn cyfarfod dysgwyr yn Wrecsam wrth iddyn nhw gael eu graddau, ochr yn ochr â phrif weithredwr Cambria, Yana Williams.

Ymhlith y rhai i gyflawni eu marciau delfrydol oedd Rhian Jones, a gafodd raddau A* mewn Cemeg a Bioleg, ac A mewn Mathemateg.

Yale Tour

Yn dilyn ei dwy flynedd “ardderchog” yn y coleg, bydd yn mynd ymlaen i astudio Gwyddorau Naturiol yng Ngholeg Prifysgol Llundain.

Yn y cyfamser, cafodd Samuel Childs raddau A* mewn Mathemateg a Mathemateg Bellach, A mewn Ffiseg a B yng nghymhwyster Bagloriaeth Cymru.

Bydd yn mynd i Brifysgol Caerhirfryn i gychwyn ar gwrs gradd mewn Ffiseg Ddamcaniaethol.

“Rydw i mor ddyledus i’r staff a’m darlithwyr i gyd, maen nhw’n bobl hollol anhygoel, a galla’i ddim diolch digon iddyn nhw,” meddai.

Matt and Ellis

Rhai eraill a fydd yn mynd ymlaen i addysg uwch yw Matt Smart, cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Darland a gyflawnodd raddau A mewn Mathemateg, Cyfrifiadureg a Bagloriaeth Cymru, a B mewn Ffiseg, gan sicrhau ei le ym Mhrifysgol Caerefrog i astudio Ffiseg gydag Astroffiseg; tra bydd Ellis Eccleston yn mynd i Brifysgol Caer i astudio gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg a Hanes ar ôl gael A* mewn Hanes a graddau A mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Astudiaethau Ffilm.

Freya Owen A LEVELS

Mae’r clod olaf yn mynd i Freya Owen, a symudodd ymlaen o gymwysterau TGAU gyda Gwasanaethau Cyfeirio Disgyblion Wrecsam (Haulfan) i gael canlyniadau anhygoel a lle ym Mhrifysgol Rhydychen i astudio Hanes Celf.

Cafodd Freya, sy’n dod o Wrecsam, A* mewn Daearyddiaeth, A mewn Astudiaethau Crefyddol, ac A yn y Clasuron.

Lynne Neagle Yale

Gan gyfaddef ei bod yn teimlo’n “swp sâl” cyn agor ei chanlyniadau, dywedodd: “Rydw i mor hapus ac mor ddiolchgar i fy chwaer, fy nheulu a’m ffrindiau a phawb yn y coleg am fy helpu i gyrraedd fan hyn.”

Yn ystod ei hymweliad, cafodd Mrs Neagle ei thywys o amgylch y ganolfan iechyd a llesiant newydd gwerth £14m sy’n cael ei hadeiladu yn Iâl ar hyn o bryd.

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth am ganlyniadau Safon Uwch a BTEC a’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf o Goleg Cambria.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle