Gwnaeth Matthew Shackleton, ffisiotherapydd, ymgynghorydd sŵau ac ymarferydd gofal anifeiliaid yng Ngholeg Cambria Llaneurgain, drafod ac arddangos cloffni a dyfeisiau cyfoethogi ym Mharc Bywyd Gwyllt Swydd Efrog yn Branton, ger Doncaster.
Ymunodd Cydlynydd Gofal Anifeiliaid Cambria Richard Morrilly gyda’r sesiwn, lle gwnaethon nhw gynnal bore o theori ar ffisioleg a sut i adnabod salwch locomotif – sy’n cyfyngu ar ansawdd bywyd a symudedd – a datrysiadau ar sut i’w hatal nhw.
Roedd dysgwyr o raglenni Rheolaeth Anifeiliaid Coleg Lincoln yn bresennol hefyd.
“Roedd hi’n ddiwrnod da iawn, mi wnaethon ni gwmpasu llawer iawn ac roedden ni’n gallu cyflwyno datrysiadau ymarferol wedi’u teilwra ar gyfer yr anifeiliaid wrth i ni fod ar y safle,” meddai Matthew, sy’n berchen ar gwmni Shackleton Veterinary Physiotherapy yn Upton.
“Ar ol trafod mathau o salwch ac afiechydon locomotif – gan ganolbwyntio ar bedwar rhywogaeth gan gynnwys llewesau a jiraffod – mi wnaethon ni ddechrau dylunio dyfeisiadau cyfoethogi a fyddai’n annog symudiadau penodol neu ymarferion gan fod anifeiliaid yn medru wynebu cyfres o broblemau, yn enwedig arthritis.
“Mae tystiolaeth yn awgrymu, os ydy arferion yn niweidiol i’r anifail, gall gyflymu’r dirywiad, felly gall annog ymddygiadau eraill gadw hynny draw.”
Ychwanegodd: “Mi wnaeth Cambria ein cefnogi ni’n wych wrth ddarparu ni gydag offer ac adnoddau i wneud hyn, ac roedd yn ddiwrnod defnyddiol ac addysgiadol iawn, dwi’n gobeithio y bydd rhagor o sesiynau’n cael eu cynnal mewn sŵau a pharciau bywyd gwyllt ledled y wlad.”
Mae Matthew yn un o’r ffisiotherapyddion anifeiliaid blaenllaw y DU ac mae wedi gweithio gyda sŵau yng Nghaer, Llundain, Paignton a rhagor dros y ddegawd ddiwethaf.
Dywedodd Richard fod cael Matthew yn gweithio gyda Cambria yn bwynt gwerthu unigryw ar gyfer ei ddarpariaeth Rheolaeth Anifeiliaid a Gofal Anifeiliaid, ac yn ei dro lleoliadau bywyd gwyllt ar hyd a lled y wlad.
“Mae Matthew yn un o grŵp bach o bobl yn y DU sy’n gwneud hyn, felly mae’n fraint gweithio gydag ef,” meddai.
“Roedd bod yn rhan o’r diwrnod a helpu i greu dyfeisiau yn amgylcheddau’r anifeiliaid eu hunain yn wych ac mi fydd yn chwarae rhan fawr wrth gyfoethogi eu bywydau nhw o ddydd i ddydd.
“Rydyn ni wedi cael adborth gwych yn barod ac yn gobeithio ymweld â sŵau a pharciau bywyd gwyllt eraill yn y dyfodol agos, am y gwerth addysgol a ddaw yn ei sgil ac yn bwysig iawn oherwydd ei fod yn cael effaith mor gadarnhaol ar iechyd, hapusrwydd a llesiant yr anifeiliaid.”
Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.
I weld rhagor am Barc Bywyd Gwyllt Swydd Efrog, ewch i’r wefan: www.yorkshirewildlifepark.com.
Ewch i wefan Shackleton Veterinary Physiotherapy yma: Shackleton Veterinary Physiotherapy | Pets | Zoo consulting | Training (shackletonvetphysio.com).
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle