Plaid Cymru yn ymateb i ganlyniadau TGAU yng Nghymru

0
132
Luke Fletcher MS

Wrth ymateb i ganlyniadau TGAU yng Nghymru, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi ac Ynni, Luke Fletcher AS:

“I bawb sy’n casglu eu canlyniadau TGAU heddiw, hoffwn i a Phlaid Cymru eich llongyfarch chi gyd.

“Rydym i gyd yn rhy ymwybodol o’r anawsterau parhaus y mae myfyrwyr ac athrawon wedi’u hwynebu o ganlyniad i Covid, a dylech fod yn arbennig o falch o’ch cyflawniadau yn y cyd-destun hwn.

“P’un a yw myfyrwyr nawr yn dewis symud ymlaen i’r Chweched Dosbarth neu goleg, neu’n edrych ar opsiynau ar gyfer hyfforddiant neu gyflogaeth amser llawn, mae’n amlwg bod ein pobl ifanc yn haeddu cyfleoedd i ffynnu ac i allu dilyn y llwybr o’u dewis yma yng Nghymru.

“O’r GIG, adeiladu, amaethyddiaeth, i’n sector lletygarwch – mae prentisiaethau’n arbennig yn cynnig y gallu i fyfyrwyr gyfuno hyfforddiant mewn swydd ag astudio, ac maent yn bwysig i dyfu ein gweithlu ledled Cymru.

“Ond yn dilyn colli arian yr UE a chyda’r gyllideb prentisiaethau wedi cael ei thorri gan y Llywodraeth Lafur yng Nghymru, mae cefnogaeth i brentisiaethau yng Nghymru yn parhau i fod mewn sefyllfa ansicr.

“Gyda chymaint o sectorau yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd recriwtio a chadw staff, mae prentisiaethau’n allweddol i dyfu ein gweithlu domestig. Ond y gwir amdani yw bod angen i ni ddeall yn well pa sgiliau sydd gennym eisoes yng Nghymru a lle rydym yn methu, er mwyn gallwn fuddsoddi mewn rhaglenni prentisiaeth sy’n datblygu’r gweithlu sydd ei angen arnom i dyfu a gwyrddu ein heconomi Dylid rhoi’r cyfle gorau i’n pobl ifanc ddod o hyd i swyddi sgiliau uchel sy’n talu’n uchel yma yng Nghymru.

“Mae angen archwiliad sgiliau a strategaeth prentisiaethau glir gan Lywodraeth Lafur Cymru, ynghyd â chynllunio’r gweithlu i fynd i’r afael yn wirioneddol â’r heriau sy’n wynebu diwydiannau hanfodol ledled Cymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle