Mae taith tractor coffa yn codi £1,660 ar gyfer uned gofal dwys

0
146
Pictured above: Rebecca Pugh (Centre) with staff from the unit.

Cododd Taith Tractor Coffa Rob Pugh swm gwych o £1,660 ar gyfer yr Uned Gofal Dwys (ICU) yn Ysbyty Glangwili.

 Trefnodd Rebecca Pugh y daith tractor a cherbyd yn ogystal â raffl i godi arian er cof am ei thad, Rob.

 Dywedodd Rebecca: “Fe wnes i’r gwaith codi arian hwn ar gyfer yr ICU er cof am fy nhad, Rob Pugh, a gafodd ei ruthro ar ddechrau Rhagfyr 2019 i’r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Glangwili. Yna aethpwyd ag ef i’r ward strôc, lle cafodd ataliad ar y galon a chafodd ei ruthro i’r ICU. Bu farw ar 20 Chwefror 2020.

Tractors

 “Mae’r codi arian hwn yn arwydd bach i ddangos ein gwerthfawrogiad i bawb sy’n ymwneud â gofal fy nhad yno.

 “Cynhaliwyd y daith ar 13 Gorffennaf. Roedd y diwrnod yn emosiynol gan y byddai wedi bod yn ben-blwydd fy nhad yn 50 oed. Cafodd ein teulu, ffrindiau a phawb oedd yn ei adnabod amser gwych. 

“Hoffwn ddiolch i bawb a fynychodd y diwrnod a phawb sydd wedi cyfrannu, naill ai arian neu wobrau raffl. Hoffwn ddiolch i Sean Birch a wnaeth y fainc goffa, Stuart o’r Lamb Inn Blaenwaun am y bwyd, aelodau pwyllgor Neuadd Llanwinio am ddefnyddio’r neuadd, ac am ganiatáu gosod mainc fy nhad ym Mharc Blaenwaun, a hefyd pawb a wirfoddolodd eu hamser ar y diwrnod.

Rebecca-Tractor.

“Hoffwn ddiolch yn arbennig i fy mrawd, Matthew Pugh, a fy Mamgu, Kay Evans, sydd yn ei 70au, am ruthro o gwmpas gan rwystro cyffyrdd a chroesffyrdd fel bod y daith tractor a cherbyd yn gallu mynd drwodd yn rhwydd. Yn olaf, hoffwn ddiolch i fy modryb, Sarah Raymond, am ofalu am y plant fel eu bod yn aros yn ddiogel ond hefyd yn teimlo eu bod wedi cymryd rhan ar y diwrnod.”

Bench

Dywedodd Tammy Bowen, Uwch Brif Nyrs: “Hoffem ni fel tîm ddiolch i Rebecca am ei rhodd hael. Bydd y rhodd hon yn helpu i gefnogi ein nodau fel uned i allu cefnogi ein cleifion a’u perthnasau yn ystod eu harhosiad yn yr ICU.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Rebecca a phawb a gymerodd ran yn y daith tractor coffa. 

Bench

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.” 

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG. I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle