Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am benodi Prif Swyddog Gweithredol newydd.

0
174
Hywel Dda UHB - Paediatric consultation

Mae’r bwrdd iechyd yn gwahodd arweinwyr rhagorol i wneud cais am swydd barhaol y Prif Weithredwr.

Mae’r rôl wedi’i dal dros dro gan yr Athro Phil Kloer a benodwyd tra’n aros i Gadeirydd newydd y bwrdd iechyd gael ei benodi.

Esbonia Dr Neil Wooding, Cadeirydd BIP Hywel Dda, fel hyn: “Mae penodi Prif Swyddog Gweithredol yn rhan bwysig o gyflawni rôl Cadeirydd bwrdd iechyd ac mae’n hollbwysig er llwyddiant sefydliad i’r dyfodol. Nawr fy mod wedi bod yn y swydd ers rhai misoedd ac wedi dod i ddeall anghenion y sefydliad, rwy’n awyddus i symud ymlaen yn gyflym gyda’r penodiad i’r swydd hollbwysig hon ac i sicrhau arweinyddiaeth sefydlog yn dilyn cyfnod o newid ar lefel y Bwrdd.

“Rwy’n edrych ymlaen at gael ceisiadau gan arweinwyr cymwys a phrofiadol sy’n frwd dros wella iechyd a llesiant ein cleifion, ein staff a’n cymunedau ehangach yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Mae gennym strategaeth glir yn Hywel Dda o symud oddi wrth system sy’n trin salwch tuag at un sy’n hybu iechyd ac yn cadw pobl yn iach am gyfnod hwy. Ategir hyn gan ymrwymiad i sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a gofal yn ddiogel, yn hygyrch, yn gynaliadwy ac yn garedig.

“Mae Hywel Dda yn sefydliad gwych, gyda thîm ymroddedig o dros 13,000 o staff. Yn debyg i fyrddau ac ymddiriedolaethau eraill yn y GIG, mae Hywel Dda yn wynebu nifer o heriau a fydd yn gofyn am newid sylweddol i sicrhau cynaliadwyedd ei wasanaethau a sefyllfa ariannol sicr. Fel Bwrdd, rydym yn chwilio am arweinydd a all ein helpu i lywio drwy’r cyfnod heriol hwn a gwneud hynny gyda gweledigaeth glir a deniadol, arweinyddiaeth gadarn, ac ymrwymiad i gynnal ein gwerthoedd.

“Dyma swydd gyffrous a phwysig sydd wedi’i lleoli mewn ardal brydferth o Gymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus, ynghyd â’n partneriaid a’n cymuned, yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio iechyd a llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw i sicrhau dyfodol cynaliadwy i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.”

Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys pecyn ymgeisydd a gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael ar wefan y bwrdd iechyd yn: https://biphdd.gig.cymru/Swydd-Prif-Weithredwr.  Gwahoddir ymgeiswyr i gyflwyno eu ceisiadau ar-lein erbyn ganol nos, nos Fawrth 24 Medi 2024.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle