Mae arbenigedd digidol trafnidiaeth gyhoeddus Japan yn dod i Gymru

0
61
TfW fflecsi

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dewis y cwmni byd-eang Hitachi er mwyn helpu i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yn ddigidol yng Nghymru, gan ei gwneud yn haws i gwsmeriaid gynllunio, archebu a thalu am wahanol ddulliau teithio.

Dros y pum mlynedd nesaf, bydd Hitachi yn darparu system archebu ddigidol aml-ddull a fydd yn cynnwys pob dull o drafnidiaeth gyhoeddus, a fydd ar gael i gwsmeriaid trwy ap syml sy’n hawdd ei ddefnyddio.

Bydd gwasanaethau rheilffyrdd, bysiau lleol, Fflecsi a TrawsCymru i gyd ar gael er mwyn cynllunio ac archebu teithiau arnynt drwy un datrysiad gweinyddo, digidol gan Hitachi.  Bydd hefyd yn cynnal dulliau micro-symudedd eraill (beiciau, e-sgwteri) ac atebion symudedd sy’n seiliedig ar alw, sydd eisoes yn cael eu defnyddio yng Nghymru.

Mae Hitachi wedi defnyddio’r dechnoleg ‘Symudedd fel Gwasanaeth’ (Mobility as a Service – MaaS) yn Japan o’r blaen, yn fwyaf nodedig ar Fetro Tokyo.

Bydd Hitachi Rail yn defnyddio’r wybodaeth a’r profiad sydd ganddynt o gysylltu miliynau o deithiau digidol bob dydd yn Japan er mwyn darparu ateb pwrpasol ac unigryw i Gymru.

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant TrC:

“Yn TrC rydym o hyd yn ceisio gwella profiad y cwsmer ac wrth wneud hyn rydym am ddenu mwy o bobl i’n rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.

“Bydd y prosiect cyffrous ac uchelgeisiol hwn yn darparu ateb digidol a fydd yn helpu ein cwsmeriaid i gynllunio teithiau pwynt i bwynt gan ddefnyddio gwahanol ddulliau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r cyfan yn rhan o’n cynlluniau a’n dyheadau tymor hwy i ddarparu un rhwydwaith, un amserlen ac un tocyn i’n cwsmeriaid.

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Hitachi a dod â’r arbenigedd byd-eang hwn i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.”

Meddai Justin Southcombe, Cyfarwyddwr Masnachol Hitachi Rail: “Bydd y bartneriaeth strategol hon gyda TrC yn elwa o hyd a lled yr arbenigedd ym meysydd symudedd, digidol a gwyddoniaeth ymddygiadol sy’n bodoli yng Ngrŵp Hitachi.

Gall Hitachi gyfuno’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf gyda’r wybodaeth drylwyr sydd ganddynt o ran rheoli rhai o systemau trafnidiaeth gyhoeddus mwyaf poblogaidd y byd, er mwyn cysylltu trafnidiaeth gyhoeddus yn well.

Drwy wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch ac yn haws ei defnyddio, gall Hitachi helpu i gynyddu teithio cynaliadwy yng Nghymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here