Mae’r Apêl wedi cael hwb ariannol diolch i ddwy raffl gyda rhai gwobrau hael iawn!
Cefnogodd Jennings Solicitors Llanelli yr Apêl drwy gynnal raffl o wobrau a roddwyd gan staff.
Hyrwyddwyd y raffl gydag arddangosfa ardd yn y dderbynfa a chodwyd dros £270 ar gyfer yr Apêl.
Dywedodd James Hogg, sy’n Bartner yn y cwmni cyfreithiol: “Hoffem ddiolch i bawb a gefnogodd y raffl, gan gynnwys staff a roddodd wobrau, a chleientiaid a roddodd mor hael.
“Bydd cael gerddi therapiwtig ar gyfer y ddwy ward yn Ysbyty Tywysog Philip yn gwneud cymaint o wahaniaeth i gleifion a staff. Rydym yn falch iawn o gefnogi achos mor werth chweil.”
Yn y llun uchod (o’r chwith i’r dde): Lisa Howells ac Deborah Griffiths
Yn y cyfamser, mae raffl a gynhaliwyd gan wardiau Bryngolau a Mynydd Mawr er budd yr Apêl wedi codi dros £400.
Ymhlith y gwobrau roedd tocyn teulu Rygbi’r Scarlets, hamperi, a thalebau ar gyfer nifer o siopau a gwasanaethau lleol.
Dywedodd Lisa Howells o ward Bryngolau: “Diolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd ein raffl drwy brynu tocyn, rydym wrth ein bodd ein bod wedi codi cymaint tuag at yr Apêl.
“Mae pob rhodd tuag at y gerddi newydd yn golygu cymaint a bydd yn ein helpu i gyrraedd ein nod.
“I’r holl enillwyr, llongyfarchiadau – a gobeithio y byddwch yn mwynhau eich gwobrau!”
I gael rhagor o fanylion am Elusennau Iechyd Hywel Dda a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle