Dewch i ddathlu haelioni’r hydref ar Ddiwrnod Gwasgu Afalau Castell Caeriw

0
27
Dewch â'ch afalau dros ben i Ddiwrnod Gwasgu Afalau rhad ac am ddim Castell Caeriw ddydd Sadwrn 28 Medi i'w troi'n sudd blasus.

Mae Castell Caeriw yn gwahodd cymunedau lleol i ymuno mewn diwrnod o wasgu afalau, gan gynnig profiad ymarferol i droi yr afalau sydd dros ben ganddynt yn sudd ffres a blasus.

Cynhelir y digwyddiad yng Nghastell Caeriw ddydd Sadwrn 28 Medi, rhwng 10am a 2pm, gan roi cyfle i gyfranogwyr ddysgu am y grefft o wasgu afalau yn amgylchedd trawiadol y safle hanesyddol hwn, sy’n cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Bydd y Parcmon Chris Taylor wrth law drwy’r dydd gyda’r wasg afalau, yn barod i helpu ymwelwyr i droi eu afalau dros ben yn drêt flasus.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Gyda’r hydref yn ei anterth, dyma’r amser perffaith i fanteisio i’r eithaf ar y cynhaeaf afalau. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i deuluoedd ac unigolion gael hwyl wrth greu rhywbeth blasus.

“Er bod y Diwrnod Afalau yn rhad ac am ddim, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gwella eich profiad gyda thocyn i archwilio’r Castell a’r Felin Heli – enillydd yr Atyniad Gorau yng Ngwobrau Croeso Sir Benfro y llynedd ac wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn tri chategori eleni. Edrychwn ymlaen at groesawu pawb i fwynhau diwrnod cofiadwy!”

Anogir y rhai sydd am fod yn bresennol i ddod a’u hafalau a’u poteli eu hunain gyda nhw i fynd â’u sudd ffres, newydd ei wasgu, adref gyda nhw.

Mae rhagor o wybodaeth am hyn a digwyddiadau eraill yr hydref yng Nghastell Caeriw ar gael yn https://www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/digwyddiadau-castell-caeriw/digwyddiadaur-hydref/.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here