NOSON YNG NGHWMNI POBOL Y CWM – DDOE A HEDDIW (I’r wasg) I ddathlu’r ffaith fod y gyfres deledu Pobol Y Cwm yn dathlu hanner can mlynedd o ddarlledu mae Ad/Lib Cymru yn falch iawn o gyflwyno mewn cydweithrediad â BBC Cymru Wales a BBC Studios noson i gyd-fynd â’r digwyddiad arbennig hwn. Sioe siarad ar lwyfan yw ‘Noson yng Ngwmni Pobol Y Cwm: Ddoe a Heddiw’ gyda chymorth aelodau presennol y cast ac hefyd wynebau o’r gorffennol. Yn ymddangos yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin fel rhan o’r digwyddiad arbennig hwn bydd: Sue Roderick (Cassie) Andrew Teilo (Hywel) Sera Cracroft (Eileen) Lauren Phillips (Kelly) Gareth Lewis (Meic) Gillian Elisa (Sabrina) Gwyn Elfyn (Denzil) Hywel Emrys (Derek) Opera sebon yw Pobol y Cwm a gynhyrchwyd gan y BBC ers Hydref 1974. Crewyd y gyfres gan John Hefin a Gwenlyn Parry. Dyma’r opera sebon deledu hiraf a gynhyrchwyd gan y BBC. Darlledwyd Pobol y Cwm yn wreiddiol ar BBC Cymru (BBC One Wales bellach) ac yn ddiweddarach fe’i trosglwyddwyd i S4C ym mis Tachwedd 1982. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar drigolion Cwmderi – cymuned agos yng ngorllewin Cymru. Ar wahân i raglenni rygbi a phêl-droed arbennig, Pobol y Cwm yw un o’r rhaglenni sy’n cael ei wylio fwyaf ar S4C. Ym 1994 fe’i dangoswyd ar draws y Deyrnas Unedig gyfan am dri mis ar BBC Two gydag isdeitlau Saesneg. Am gyfnod byr yn 1992, darlledwyd y gyfres mewn slot 7pm ar deledu Nederland 3 (Yr Iseldiroedd), dan y teitl De Vallei (The Valley). Ar 25 Medi 2019, cyrhaeddodd y sebon garreg filltir pan ddarlledodd ei 8,000fed pennod. Ar 16 Hydref 2024, bydd y sioe yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed. Mae pedair sioe lwyfan yn cael eu cynhyrchu i ddathlu’r garreg filltir hanesyddol hon – gan gynnwys Theatr Y Lyric ar Hydref 11eg am 7.30pm. Yn cyflwyno’r noson bydd dau wyneb cyfarwydd o’r dyddiau a fu – Ieuan Rhys (Sgt James) a Phyl Harries (Ken Coslett) Sgwrsio, hel atgofion, straeon doniol – tu ôl ac o flaen y camerâu, chwerthin, ac ambell gân. Bydd hi’n noson i’w chofio wrth i ni ddathlu penblwydd aur cyfres deledu hynod boblogaidd y BBC – Pobol Y Cwm. THEATR Y LYRIC, CAERFYRDDIN Nos Wener, Hydref 11eg 2024 Tocynnau: https://www.theatrausirgar.co.uk/ Swyddfa Docynnau: 0345 226 3510 Sioe Gymraeg. Noddwyd Y Noson gan S4C

0
22
Pobol y Cwm_line-up

NOSON YNG NGHWMNI POBOL Y CWM – DDOE A HEDDIW

(I’r wasg)

I ddathlu’r ffaith fod y gyfres deledu Pobol Y Cwm yn dathlu hanner can mlynedd o ddarlledu mae Ad/Lib Cymru yn falch iawn o gyflwyno mewn cydweithrediad â BBC Cymru Wales a BBC Studios noson i gyd-fynd â’r digwyddiad arbennig hwn.

Sioe siarad ar lwyfan yw ‘Noson yng Ngwmni Pobol Y Cwm: Ddoe a Heddiw’ gyda chymorth aelodau presennol y cast ac hefyd wynebau o’r gorffennol. Yn ymddangos yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin fel rhan o’r digwyddiad arbennig hwn bydd:

Sue Roderick (Cassie)

Andrew Teilo (Hywel)

Sera Cracroft (Eileen)

Lauren Phillips (Kelly)

Gareth Lewis (Meic)

Gillian Elisa (Sabrina)

Gwyn Elfyn (Denzil)

Hywel Emrys (Derek)

Opera sebon yw Pobol y Cwm a gynhyrchwyd gan y BBC ers Hydref 1974. Crewyd y gyfres gan John Hefin a Gwenlyn Parry.  Dyma’r opera sebon deledu hiraf a gynhyrchwyd gan y BBC. Darlledwyd Pobol y Cwm yn wreiddiol ar BBC Cymru (BBC One Wales bellach) ac yn ddiweddarach fe’i trosglwyddwyd i S4C ym mis Tachwedd 1982. 

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar drigolion Cwmderi – cymuned agos yng ngorllewin Cymru.

Ar wahân i raglenni rygbi a phêl-droed arbennig, Pobol y Cwm yw un o’r rhaglenni sy’n cael ei wylio fwyaf ar S4C. Ym 1994 fe’i dangoswyd ar draws y Deyrnas Unedig gyfan am dri mis ar BBC Two gydag isdeitlau Saesneg. Am gyfnod byr yn 1992, darlledwyd y gyfres mewn slot 7pm ar deledu Nederland 3 (Yr Iseldiroedd), dan y teitl De Vallei (The Valley)

Ar 25 Medi 2019, cyrhaeddodd y sebon garreg filltir pan ddarlledodd ei 8,000fed pennod. Ar 16 Hydref 2024, bydd y sioe yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed.

Mae pedair sioe lwyfan yn cael eu cynhyrchu i ddathlu’r garreg filltir hanesyddol hon – gan gynnwys Theatr Y Lyric ar Hydref 11eg am 7.30pm.

Yn cyflwyno’r noson bydd dau wyneb cyfarwydd o’r dyddiau a fu – Ieuan Rhys (Sgt James) a Phyl Harries (Ken Coslett)

Sgwrsio, hel atgofion, straeon doniol – tu ôl ac o flaen y camerâu, chwerthin, ac ambell gân. Bydd hi’n noson i’w chofio wrth i ni ddathlu penblwydd aur cyfres deledu hynod boblogaidd y BBC – Pobol Y Cwm.

THEATR Y LYRIC, CAERFYRDDIN 

Nos Wener, Hydref 11eg 2024

Tocynnau: https://www.theatrausirgar.co.uk/

Swyddfa Docynnau: 0345 226 3510

Sioe Gymraeg. 

Noddwyd Y Noson gan S4C


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here