Y Bwrdd i drafod cau Uned Mân Anafiadau dros nos dros dro i amddiffyn diogelwch cleifion

0
138

Yn ei gyfarfod ar 26 Medi, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn trafod yr angen i newid oriau agor yr Uned Mân Anafiadau, Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli oherwydd pwysau cynyddol gweithredol ac ar lefelau staffio.

Byddai’r cynnig, pe bai’n cael ei gefnogi, yn golygu darparu gwasanaeth 12 awr yn ystod y dydd, yn hytrach na gwasanaeth 24 awr, o 1 Tachwedd 2024 am gyfnod o chwe mis. Mae hyn er mwyn sicrhau diogelwch cleifion sy’n bresennol yn yr uned.

Ni fydd y newid dros dro yn effeithio ar yr Uned Asesu Meddygol Acíwt a bydd cleifion meddygol sâl iawn yn dal i gael eu cludo i Ysbyty’r Tywysog Philip, 24 awr y dydd, ar gyfer asesiad a thriniaeth fel y maent ar hyn o bryd.

Byddai’r cynnig yn golygu y byddai oedolion a phlant sydd ag anaf llai difrifol, hefyd yn gallu mynychu’r Uned Mân Anafiadau, yn yr ysbyty rhwng 8am ac 8pm bob dydd.

Mae’r cynnig i addasu oriau agor yr Uned Mân Anafiadau, yn cael ei gyflwyno, oherwydd pryderon diogelwch cleifion, a godwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn gofyn am sicrwydd yn dilyn arolygiad ym mis Mehefin y llynedd, a chan staff sy’n gweithio yn yr uned. Mae hyn oherwydd yr anallu cyson i ddod o hyd i feddygon addas i arwain y gwasanaeth dan arweiniad meddygon teulu, yn enwedig gyda’r nos a sesiynau dros nos.

Mae hyn wedi arwain at y gwasanaeth yn cael ei arwain gan Ymarferwyr Nyrsio Brys nad ydynt, er eu bod yn fedrus iawn wrth ddelio â mân anafiadau, yn gallu darparu gofal addas i gleifion sydd angen sylw meddyg teulu.

Yn ogystal, mae gan rai cleifion sy’n mynychu’r uned anghenion mwy cymhleth nag y gellir eu rheoli gan feddyg teulu, gan eu bod yn cael eu hystyried yn ddifrifol. Mae hyn yn golygu bod angen eu sefydlogi a’u trosglwyddo ymlaen.

Mae’r angen brys i fynd i’r afael â’r broblem hon, wedi’i gymeradwyo gan staff meddygol yn yr ysbyty â chanddynt bryderon cynyddol am ddiogelwch y gwasanaeth a’r cleifion y maent yn eu trin.

Tra bo’r cynnig yn cael ei ystyried, mae’n bwysig pwysleisio bod Ysbyty’r Tywysog Philip yn parhau i ddarparu gofal meddygol acíwt i’r boblogaeth leol.

Os caiff y cynnig ei gymeradwyo, bydd y bwrdd iechyd yn cynnal ymgyrch gwybodaeth ac ymgysylltu yn y gymuned. Bydd hyn yn rhoi gwybod i bobl am y gofal a’r driniaeth a ddarperir gan yr Uned Mân Anafiadau, beth yw’r oriau agor dros dro, a cheisio ystyried sut gallai’r gwasanaeth edrych yn y dyfodol.

Bydd cyfarfod y Bwrdd yn cael ei gynnal ar ddydd Iau, 26 Medi 2024. Mae manylion cyfarfod y Bwrdd i’w gweld ar wefan y bwrdd iechyd.

Bydd penderfyniad y Bwrdd yn cael ei gyhoeddi i’r cyfryngau lleol ac ar wefan y bwrdd iechyd a thudalennau cyfryngau cymdeithasol ar 26 Medi 2024.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn hapus i drafod gyda’r gymuned a gwrando ar sylwadau. Mae proses o rannu gwybodaeth ac ymgysylltu yn cael ei argymell fel rhan o bapur y Bwrdd.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle