Dathlu 25 Mlynedd o Gysylltu Pobl â’r Awyr Agored

0
346

Mae Tir Coed yn Dathlu 25 Mlynedd gyda Digwyddiadau Ar Draws Pedair Sir

Mae Tir Coed, elusen Gymreig ar lawr gwlad, wrth ei bodd yn dathlu 25 mlynedd o gysylltu pobl â’r awyr agored ar gyfer dysgu a lles, grymuso cymunedau a thrawsnewid mannau gwyrdd ar draws cefn gwlad canolbarth a gorllewin Cymru.  Ers 1999, mae Tir Coed wedi bod yn gweithio i ddatgloi potensial tir a choetiroedd i ddarparu cyfleuster cymunedol, gweithgareddau addysgol ac iechyd, ac i greu cyfleoedd gwaith i unigolion difreintiedig yng nhefn gwlad Cymru. Gyda’r nod o wneud newid parhaol cadarnhaol.

I nodi’r garreg filltir hon, mae Tir Coed yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau arbennig ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys – y pedair sir y mae’n eu gwasanaethu ar hyn o bryd, gan ddod â’r cymunedau sydd wedi bod wrth galon ei waith ynghyd.  Bydd y digwyddiadau hyn yn arddangos llwyddiannau anhygoel yr elusen dros y ddau ddegawd a hanner diwethaf.

Ymunwch â ni am Ddiwnod Agored yn Nhgoed Tyllwyd, Ceredigion

I gychwyn eu dathliadau, bydd Tir Coed yn cynnal diwrnod agored yng Nghoed Tyllwyd yng Ngheredigion, y sir lle meant wedi bod yn gweithio hiraf a’u safle mwyaf sefydliedig, ar ddydd Iau 26ain o Fedi, o 1yp tan 3yp.  Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i ddysgu mwy am waith Tir Coed, archwilio’r coetir a chlywed straeon am yr effaith anhygoel y mae Tir Coed wedi’i chael ar fywydau pobl a’r lleoedd sydd wedi’u trawsnewid yn gadarnhaol gan brosiectau’r elusen.

Bydd y digwyddiadau yn cynnwys teithiau cerdded tywysedig yn y coetir, arddangosiadau ymarferol o sgiliau a chrefftau coetir cynaliadwy, a’r cyfle i gwrdd â rhai o’r tîm y tu ôl i waith ysbrydoledig Tir Coed.  Bydd hefyd yn gyfle gwych i bartneriaid, cefnogwyr a’r gymuned ehangach ddod at ei gilydd i ddathlu’r angerdd a rennir am botensial yr awyr agored i greu newid ac i edrych ymlaen at bennod nesaf taith Tir Coed.

Etifeddiaeth o Newid Cadarnhaol

Ers ei sefydlu yn 1999, mae Tir Coed wedi cynnwys miloedd o unigiolion mewn gweithgareddau awyr agored ystyrlon, gan gynnig hyfforddiant, cefnogaeth a chyfleoedd datblygiad personol tra’n gwella bioamrywiaeth ac adfer gofodau coetir.  O goetiroedd gwledig i fannau gwyrdd trefol, mae’r elusen wedi ehangu ei chyrhaeddiad yn barhaus, gan hyrwyddo cynaliadwyedd a chreu cymuenadau iachach a hapusach.

Wrth i ni ddathlu 25 mlynedd o’r gwaith dylanwadol hwn, cawn ein hatgoffa o bwysigrwydd byd natur wrth wella ein lles a chryfhau ein cymunedau.

Ymunwch â’r Dathlu

Mae croeso i bawb fynychu digwyddiadau pen-blwydd Tir Coed.  Rydym yn eich annog i ymweld â’n gwefan neu gysylltu â ni’n uniongyrchiol i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi gymryd rhan yn y dathliad hwn o natur, dysgu a chymuned.

I gael rhagor o wybodaeth am Tir Coed a’n digwyddiadau sydd i ddod, ewch i www.tircoed.org.uk neu cysylltwch â ni ar info@tircoed.org.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle