Gallai dwy funud nawr achub bywydau

0
65
Hywel Dda UHB - Paediatric consultation

Bydd yr Wythnos Rhoi Organau hon, a gynhelir rhwng 23 a 29 Medi, yn dathlu 30 mlynedd ers sefydlu Cofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG.

Mae Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn galw ar bobl i gofrestru eu penderfyniad i roi organau a siarad â’u teuluoedd am roi organau i helpu’r rhai ledled y DU sy’n aros am drawsblaniad.

Dywedodd Lauren Blunsden, Nyrs Arbenigol Rhoi Organau: “Ar hyn o bryd mae gennym dros 7,000 o gleifion yn aros am drawsblaniad organ sy’n achub bywyd gyda 200 o’r rhain yn blant.

“Hoffem annog pawb i lofnodi eu penderfyniad ar y gofrestr Rhoi Organau ac yn bwysicaf oll i wneud yn siŵr eich bod yn rhannu eich penderfyniad gyda’ch anwyliaid.”

Mae tua 93,864 o bobl yn Sir Gaerfyrddin, 41,228 o bobl yng Ngheredigion, a 65,611 o bobl yn Sir Benfro eisoes wedi datgan eu penderfyniad drwy Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG.

Er bod y gyfraith ynghylch rhoi organau bellach wedi newid ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban, byddwn bob amser yn ymgynghori ag aelodau’r teulu cyn i’r broses o roi organau fynd rhagddi.

Mae angen i bobl ddweud wrth eu teulu i helpu i sicrhau eu bod yn cefnogi eu penderfyniad – boed hynny i roi organau neu na, os bydd nyrs arbenigol yn yr ysbyty yn cysylltu â nhw ynghylch rhoi organau.

Pan gysylltir â theulu, bydd 9 o bob 10 teulu yn cytuno i roi os ydynt yn gwybod bod aelod o’u teulu ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau ac wedi siarad am eu penderfyniad.

Mae hyn yn golygu ei bod yn dal yn bwysig ag erioed i gofrestru eich penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG a sicrhau bod eich ffrindiau a’ch teulu yn gwybod beth rydych ei eisiau.

Dywedodd Chantal Patel, Cadeirydd Pwyllgor Rhoi Organau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae Wythnos Rhoi Organau yn bwysig iawn ac yn gyfle i deuluoedd gael trafodaethau am roi organau.

“Yng Nghymru, rydym yn dilyn y ddeddfwriaeth caniatâd tybiedig, sy’n golygu y rhagdybir nad oes gennych unrhyw wrthwynebiad i fod yn rhoddwr organau. Felly, mae’n hanfodol bod pobl yn cofrestru eu penderfyniad ac yn siarad ag anwyliaid.”

Mae’r bwrdd iechyd nawr yn gofyn i bobl ar draws yr ardal gofrestru eu penderfyniad a dweud wrth eu teuluoedd eu bod am roi rhodd ar ôl eu marwolaeth er mwyn sicrhau eu bod yn gallu rhoi rhodd bywyd.

Derbyniodd Christopher Hughes, o ardal Hywel Dda, a gofrestrodd fel rhoddwr yn 19 oed, iau newydd ar ôl i salwch sydyn ddatgelu bod ganddo glefyd yr afu brasterog nad oedd yn ymateb i driniaeth.

Cafodd asesiad trawsblannu a chafodd ei ychwanegu at y rhestr drawsblannu.

Dywedodd ‘Mae fy mywyd wedi cael ei drawsnewid ac rwyf wedi gweld ein mab yn tyfu i fyny, yn priodi ac yn rhoi tri o wyrion hyfryd inni. Rwyf newydd ddathlu 20 mlynedd ers y trawsblaniad.”

Mae’n ddiolchgar am benderfyniad ei roddwr i gofrestru, a theulu’r rhoddwr.

“I unrhyw un sy’n ystyried ymuno, Rhoi Organ yw’r anrheg fwyaf y gall rhywun ei rhoi i rywun arall,” meddai Christopher.

Cofrestrwch eich penderfyniad yn www.organdonation.nhs.uk a rhannwch eich penderfyniad gyda’ch teulu, gallai achub bywydau.

Dywedodd Anthony Clarkson, Cyfarwyddwr Rhoi Organau a Meinweoedd a Thrawsblannu ar gyfer Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am ei gefnogaeth yn ystod Wythnos Rhoi Organau.

“Bob dydd ar draws y DU mae miloedd o gleifion a’u teuluoedd, yn aros am yr alwad achub bywyd hollbwysig honno. Ac eto, yn aml dim ond o ganlyniad i deulu arall yn derbyn peth o’r newyddion anoddaf y bydd yn rhaid iddynt ei glywed erioed y mae hyn yn bosibl.

“Gyda’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n aros am drawsblaniadau, mae’n bwysicach nag erioed i gofrestru eich cefnogaeth i roi organau ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG i sicrhau bod eich teulu’n ymwybodol o’ch penderfyniad.

“Rydym yn annog unrhyw un sydd heb wneud hynny’n barod, i gymryd eiliad yr Wythnos Rhoi Organau yma i gofrestru a rhannu eich penderfyniad.”

I gael gwybod mwy ac i gofrestru eich penderfyniad, ewch i Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG yn www.organdonation.nhs.uk a rhannwch eich penderfyniad gyda’ch teulu.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here