Mae CRIW o ymchwilwyr addysgu yn paratoi i suddo eu dannedd mewn antur elusennol epig.

0
15
Dementia UK

Efallai mai’r ‘Bigger Boat Challenge’  – sy’n gyfeiriad at y ffilm Jaws o 1975 – fydd yr her anoddaf eto i Karl Jackson a’i gydweithwyr yng Ngholeg Cambria.

Dros gyfnod o ddeuddydd o ddydd Gwener 25 Hydref, bydd y tîm o 12 o safle Ffordd y Bers yn Wrecsam yn caiacio o amgylch dau lyn ac yn heicio llwybr 22 cilomedr ar draws Gwynedd a Phowys er budd Dementia UK.

“Bob blwyddyn rydyn ni’n ceisio meddwl am weithgareddau unigryw, llawn adrenalin a fydd yn ein gwthio i’r eithaf ac, yn anad dim, yn codi cymaint o arian ag y gallwn ni ar gyfer achosion anhygoel,” meddai.

“Yn yr her hon byddwn ni’n brwydro yn erbyn yr elfennau, yn cerdded sawl cilometr ac yn caiacio ar ddau o lynnoedd mwyaf Gogledd Cymru.

“Mae’r tîm a minnau’n hyfforddi’n galed yn barod ond mae’n siŵr y byddwn ni’n wynebu ambell beth annisgwyl oherwydd y tywydd a’r llwybr rydyn ni’n ei ddilyn!”

Karl Jackson and Carl Roberts

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o anturiaethau dan arweiniad Karl; yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Karl a’i gydweithwyr wedi cwblhau’r her ‘Skye is the Limit’, Tri Chopa Cymru a’r ‘Crazy 7’ ar gyfer Cerrig Camu Gogledd Cymru ac wedi casglu dros £1,000 ar gyfer Prosiect Iechyd Mislif (MHP) trwy gwblhau’r ‘Cairngorm 4000s’, taith gerdded tri diwrnod ar draws dros 4,000 troedfedd o fynyddoedd yn ucheldiroedd dwyreiniol yr Alban.

Gwnaeth Karl a’r darlithydd Paul Standring hefyd goncro alldaith pedwar diwrnod ‘Freezing Fingers’ mewn amodau llwm, gaeafol dros fynyddoedd y Rhinogydd yn Eryri.

Y tro hwn, bydd y criw o Cambria yn cychwyn ym mhen Llyn Tegid cyn padlo mewn timau o ddau am dros 6 cilometr. Yna byddant yn cerdded i Lyn Efyrnwy, gan gynnwys dringo coetir 700m dros dirwedd anodd.

Dementia UK

Ar ôl gwersylla am y noson, bydd y parau yn caiacio drachefn, y tro hwn o amgylch perimedr y llyn mewn amodau oer a gwyntog iawn, a fydd yn cymryd hyd at dair awr.

“Rydyn ni’n ffodus o gael cymaint o gefnogaeth i’n hanturiaethau elusennol bob tro, a go brin y bydd hyn yn eithriad,” meddai Karl.

“Mae’n mynd i fod yn oer, yn wlyb, yn andros o wyntog ac yn beryglus ar brydiau, ond rydyn ni wedi paratoi’n dda ac yn barod i wynebu unrhyw her.

“Rydyn ni’n gwneud hyn ar gyfer Dementia UK, sefydliad anhygoel sy’n gwneud cymaint o les i bobl ledled y wlad – diolch o flaen llaw am ein helpu ni i’w helpu nhw.”

Mae Dementia UK yn elusen nyrsio dementia arbenigol sydd yno i’r teulu cyfan. Mae ei nyrsys – a elwir yn ‘Nyrsys Admiral’ – yn darparu cyngor, cefnogaeth a dealltwriaeth arbenigol am ddim i unrhyw un sydd wedi’u heffeithio gan y cyflwr, pryd bynnag y mae ei angen.

Bob dydd, mae Nyrsys Admiral yn helpu pobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia i gael y bywyd gorau posibl cyhyd â phosibl. Maen nhw yno pan mae pobl eu hangen nhw fwyaf, gan roi cyngor iechyd, a chynnig cefnogaeth emosiynol a seicolegol tosturiol.

Dywedodd Joanna Sullivan, Pennaeth Codi Arian Cymunedol, Digwyddiadau ac Arloesi yn Dementia UK: “Rydyn ni mor ddiolchgar i Karl a’i gydweithwyr yng Ngholeg Cambria am ymgymryd â’r her ysbrydoledig hon i Dementia UK.

“Bydd dementia yn effeithio ar un o bob dau ohonom yn ystod ein hoes – naill ai drwy ofalu am rywun sydd â’r cyflwr, drwy ddioddef ohono ein hunain, neu’r ddau. Mae’n gallu bod yn flinedig ac yn llethol, nid yn unig i’r person sydd â dementia, ond hefyd i’r bobl sy’n gofalu amdanyn nhw, a’u teulu a’u ffrindiau ehangach.

“Diolch i waith caled codwyr arian anhygoel fel Karl a’i gydweithwyr, bydd mwy o deuluoedd nag erioed yn gallu manteisio ar y cymorth sy’n newid bywydau a gynigir gan ein Nyrsys Admiral.”

Ewch i Home – Dementia UK i gael rhagor o wybodaeth am yr elusen.

I noddi’r Bigger Boat Challenge, ewch i www.justgiving.com/page/karl-jackson-1726470628182 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here