Dunelm Caerfyrddin yn dod a llawenydd i bobl ifanc y Nadolig hwn

1
59

Mae Dunelm Caerfyrddin wedi cyhoeddi y bydd ei ymgyrch llawenydd Delivering JoyNadolig 2024 yn cefnogi’r Gronfa Ddymuniadau ac yn dod â llawenydd yr ŵyl i blant ledled gorllewin Cymru.

 

Mae’r gronfa ddymuniadau yn creu atgofion hudolus i blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd ac sy’n bygwth bywyd a’u teuluoedd. Mae’n cael ei gyflwyno gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a’i gefnogi gan Rygbi’r Sgarlets.

Delivering Joy yw ymgyrch Nadolig gymunedol Dunelm sy’n rhoi cyfle i siopwyr hael i brynu anrheg i berson mewn angen.

Mae coed Nadolig Dunlem Caerfyrddin bellach i’w gweld yn y siop ac yn hongian gyda 350 o dagiau’r Gronfa Ddymuniadau. Mae pob tag yn rhoi manylion anrheg y mae plentyn neu berson ifanc sy’n derbyn gofal lliniarol wedi gofyn amdano.

Gall siopwyr a chydweithwyr caredig fynd â thag adref i gyflawni’r cais cyn dychwelyd eu hanrheg i’r siop erbyn dydd Mawrth 10 Rhagfyr 2024.

Gall y rhai na allant fynd i mewn i’r siop gysylltu â Dunelm am ragor o gymorth Grŵp Facebook Dunelm Caerfyrddin

Dywedodd Jo Cheswick o Dunelm Caerfyrddin: “Yma yn Dunelm yng Nghaerfyrddin y Nadolig hwn rydym yn cefnogi ystod o elusennau trwy geisio dosbarthu cymaint o anrhegion â phosib i’r rhai sydd eu hangen fwyaf.

“Rydym yn diolch i bawb am eu brwdfrydedd a’u cyfraniadau tuag at ein hymgyrch Deliver Joy a gobeithio mai hon fydd ein hymgyrch mwyaf llwyddiannus eto. Peidiwch ag anghofio galw heibio ein siop i gael eich tag heddiw!”

Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym eisiau dweud diolch enfawr i Dunelm Caerfyrddin am ddewis cefnogi’r Gronfa Ddymuniadau y Nadolig hwn.

“Rydym yn gwybod yn well na neb pa mor hael a chefnogol yw ein cymunedau lleol yma yng ngorllewin Cymru. Allwn ni ddim aros i ddanfon yr holl anrhegion caredig i’n cleifion ifanc!”

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch Deliver Joy ac i gymryd rhan, ewch i Dunelm Caerfyrddin neu dilynwch y ddolen hon:

https://www.dunelm.com/info/delivering-joy

I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

1 COMMENT

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here