Hywel Dda yn cefnogi wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod

0
116

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir rhwng 9-15 Hydref i gydnabod a chofio babanod sydd wedi marw. Mae’n amser i’r rhai yr effeithir arnynt yn lleol ac yn fyd-eang i uno ac yn cloi gyda digwyddiad byd-eang “Ton o Oleuni”.

Mae adran Gofal Ysbrydol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a thimau Bydwreigiaeth a Gynaecoleg wedi ymrwymo i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan farw-enedigaeth, colled yn ystod beichiogrwydd neu’n fuan ar ôl genedigaeth ac i nodi bywydau’r babanod arbennig hyn.

Mae hyn yn cynnwys rhieni sydd wedi colli plentyn, yn ogystal â’u teuluoedd, ffrindiau a phobl sy’n agos atynt ynghyd â staff gofal iechyd a oedd neu a fyddai wedi chwarae rhan bwysig yn eu bywydau.

Drwy gydol yr wythnos, bydd goleuadau glas a phinc batri yn cael eu gosod yn y Capeli/Ystafelloedd Tawel yn ein holl ysbytai acíwt.

Mae dau ddigwyddiad hefyd wedi’u trefnu i ganiatáu i bobl ddod at ei gilydd er cof am yr holl fabanod a oleuodd ein bywydau am gyfnod mor fyr mewn gofod diogel gyda’r rhai sy’n deall.

Ddydd Iau 10 Hydref 2024 am 4.30pm ym Mharc Howard, Heol Felin-foel, Llanelli, SA15 3LJ bydd seremoni fer a blodau ffres yn cael eu gosod ar y garreg goffa sydd wedi’i chysegru i fabanod sy’n cael eu cofio sydd wedi marw yn rhy fuan.

Gan ein bod yn ansicr o’r tywydd, bydd rhan gyntaf y gwasanaeth yn digwydd yng nghyntedd mynedfa Amgueddfa Parc Howard. Mae’r Bwrdd Iechyd yn ddiolchgar i staff Parc Howard, Cyngor Bwrdeistref Llanelli a Chyngor Sir Caerfyrddin am eu cefnogaeth.  Mae parcio yn y parc yn gyfyngedig felly argymhellir defnyddio Rhodfa Parc Howard.

Cynhelir gwasanaeth coffa nos Fawrth 15 Hydref yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth am 6:30pm. Hoffem wahodd rhieni mewn profedigaeth, eu teuluoedd a ffrindiau i ymuno â ni, a theuluoedd ar draws y byd, i gymryd rhan yn y digwyddiad byd-eang “Ton o Oleuni”. Cynhelir gwasanaeth byr yn y Capel ac yna cynnau cannwyll am 7.00pm

Os nad ydych yn gallu mynychu’r digwyddiadau ond yr hoffech anfon neges ymlaen, anfonwch e-bost loved.forever.hdd@wales.nhs.uk

Os oes angen cymorth pellach arnoch neu os ydych wedi cael eich effeithio gan Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, cysylltwch ag Euryl Howells, Uwch Gaplan, Bwrdd Iechyd Hywel Dda euryl.howells2@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01267 227563. Os oes angen cyswllt brys, cysylltwch â switsfwrdd 01267 235151 a gofynnwch am gyswllt Long Range.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle