Arddangosfa newydd yn datguddio trysorau cudd Castell Caeriw

0
157
Capsiwn: Bydd yr arddangosfa newydd yng Nghastell Caeriw yn rhoi darlun agos ati i ymwelwyr o arwyddocâd Castell Caeriw yn ystod gwahanol gyfnodau.

Mae arddangosfa newydd hynod ddiddorol wedi ei hagor yng Nghastell Caeriw, sy’n dangos arteffactau anhygoel sydd wedi eu darganfod ar y safle hanesyddol dros y 60 mlynedd ddiwethaf.

Mae Cloddio’r Gorffennol yn cynnig cipolwg ar wahanol gyfnodau yn hanes y safle, gan fwrw golwg ar ei darddiad fel anheddiad o Oes y Cerrig, Caer yn yr Oes Haearn, a Chadarnle Normanaidd.

Mae nifer o’r eitemau yn tarddu o waith cloddio archeolegol rhwng 1985 a 1995. Ymhlith y darganfyddiadau mwyaf diddorol, mae teils sgleiniog gyda lluniau hyddod, llewod a cheirw arnynt. Mae’r teils yn perthyn i’r 16eg Ganrif, ac arferent gael eu gosod o amgylch lle tân i ychwanegu at addurniadau hardd y Castell.

Lleolir yr arddangosfa mewn ystafell fechan yn seler tŵr y de ddwyrain. Roedd yr ystafell wedi ei chau am ddegawdau a doedd dim posib cael mynediad ati. Er ei bod hi’n fechan, mae’r ystafell yn gyforiog o hanes, ac yn datgelu holl gyfrinachau Castell Caeriw dros y canrifoedd.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Dyma arddangosfa unigryw sy’n rhoi sylw i hanes cyfoethog ac amrywiol Caeriw. Mae’r arteffactau sy’n cael eu harddangos yn rhoi darlun agos ati o arwyddocâd y Castell yn ystod gwahanol gyfnodau. Rydym ni’n falch o gael rhannu’r trysorau hyn â’r cyhoedd o’r diwedd.”

Mae eitemau mwyaf nodedig y casgliad yn cynnwys modrwy aur, sy’n tarddu o bosib o’r cyfnod canoloesol neu ôl-ganoloesol, piwter unigryw, a gwŷdd a Throell Fawr sy’n arddangos dulliau gwehyddu oedd yn gyffredin ganrifoedd yn ôl. Mae gwŷdd llai o faint ar gael hefyd, sy’n rhoi cyfle i ymwelwyr ifanc brofi’r grefft hynafol eu hunain.

I’w gweld hefyd yn yr arddangosfa, mae modelau o Gastell Caeriw sydd wedi eu gwneud â llaw. Maent yn dangos sut y byddai’r Castell wedi edrych yn nyddiau Elizabeth y 1af, cyn iddo gael ei ddinistrio yn ddiweddarach.

Bydd tocyn arferol i Gastell a Melin Heli Caeriw yn rhoi mynediad i’r arddangosfa i chi. Mae’r arddangosfa ar agor rhwng diwedd Mawrth a dechrau Tachwedd.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag ymweld â Chastell Caeriw, a’r digwyddiadau sydd ar y gweill yma, ewch i www.castellcaeriw.com.  


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle