Scarlets ac Elusen GIG leol yn cyhoeddi parhad partneriaeth Cronfa Ddymuniadau

0
40
Pictured: Scarlets Josh Macleod (left) and Gareth Davies (right) with Josey Vaughan-Hughes (left) and Diane Henry (right) from Hywel Dda Health Charities

Mae Rygbi’r Scarlets wedi cyhoeddi y bydd yn parhau â’i bartneriaeth ag Elusennau Iechyd Hywel Dda, yr Elusen GIG leol, i gefnogi ymgyrch y Gronfa Ddymuniadau. Mae’r ymgyrch yn codi arian i greu atgofion hudolus i blant a phobl ifanc sy’n byw gyda chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd neu sy’n bygwth bywyd a’u teuluoedd.

Mae’r ymgyrch, a lansiwyd yng ngwanwyn 2022, eisoes wedi codi swm gwych o £29,900 sydd wedi’i ddefnyddio i greu profiadau bythgofiadwy i gleifion gofal lliniarol pediatrig a’u teuluoedd. Mae’r rhain wedi cynnwys diwrnodau allan yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac Urdd Llangrannog, teithiau pantomeim i Lanelli ac Aberdaugleddau, a diwrnodau llawn hwyl i’r teulu ym Mharc y Scarlets.

Mae teuluoedd hefyd wedi mwynhau mynediad am ddim i gemau’r Scarlets, ac mae stondin gwybodaeth a chefnogaeth Cronfa Ddymuniadau wedi ymddangos yn rheolaidd yng ngemau cartref y Scarlets.

Dywedodd Heulwen, a fynychodd ymweliad y Scarlets gyda’i mab Jake: “Roedd yn ddiwrnod hudolus ac roedd Jake wrth ei fodd i dderbyn crys a het wedi’i arwyddo. Wnawn ni byth ei anghofio.”

Dywedodd Rachel Brown, Arbenigwr Chwarae Gofal Lliniarol Pediatrig: “Rydym wrth ein bodd bod y Scarlets yn cefnogi ein hymgyrch Cronfa Ddymuniadau.

“Mae’r Gronfa Ddymuniadau yn rhoi cyfleoedd i ni roi ychydig yn ychwanegol i’n cleifion a’n teuluoedd sydd y tu hwnt i wariant y GIG. Mae’r rhain yn cynnwys gweithgareddau grŵp gwych a theithiau diwrnod i’r teulu, teganau chwarae therapiwtig i helpu cleifion ifanc i brosesu’r hyn y maent yn ei brofi, ac adnoddau llesiant i deuluoedd a brodyr a chwiorydd ifanc.

“Mae’n golygu y gallwn greu atgofion hyfryd gyda’n gilydd.”

Dywedodd chwaraewr rhyngwladol y Scarlets, Gareth Davies: “Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o ymgyrch y Gronfa Ddymuniadau a gobeithio y gallwn ni helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd ar draws canolbarth a gorllewin Cymru.

“Rydym am eu helpu i greu atgofion gwych a fydd yn para am byth ac yn gobeithio ysbrydoli pobl ar draws y rhanbarth i ymuno â ni a dod ag ychydig o lawenydd i’w bywydau.”

Bydd ymgyrch y Gronfa Ddymuniadau yn gweld elusen y GIG a Rygbi’r Scarlets yn parhau i gydweithio i godi arian ar gyfer yr ymgyrch a chodi ymwybyddiaeth am waith y tîm Gofal Lliniarol Pediatrig. Am ragor o wybodaeth neu i gefnogi’r ymgyrch, ewch i: Y Gronfa Dymuniadau – Elusennau Iechyd Hywel Dda (gig.cymru)


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here