Mae elusen GIG yn eich herio i ymgymryd â llinell sip gyflymaf yn y byd

0
44

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi cyhoeddi eu Sialens Llinell Sip 2025 a fydd yn gweld codwyr arian yn ymgymryd â llinell sip gyflymaf y byd!

Yn cael ei chynnal ar 22 Mawrth 2025, bydd y sialens yn gweld hyd at 20 o godwyr arian yn hedfan i lawr llinell zip Velocity yn Chwarel y Penrhyn ar gyflymder o 100mya.

Wedi’i lleoli yng ngogledd Cymru ger cadwyn fynyddoedd syfrdanol yr Wyddfa yn yr hyn a fu unwaith yn chwarel lechi fwyaf y byd, mae Zip World Chwarel y Penrhyn yn darparu teithiau sip gwefreiddiol 500m uwchben llyn glas llachar y chwarel.

Gall cyfranogwyr gystadlu gyda ffi gofrestru ostyngol o £25 na ellir ei had-dalu ac yna mae’n ofynnol iddynt godi lleiafswm o £150 i’r elusen.

 

Mae Sialens Llinell Sip 2025 yn agored i gyfranogwyr 18 oed a hŷn, ac mae lleoedd ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.

Dywedodd y Swyddog Codi Arian, Bridget Harpwood: “Rydyn ni’n gyffrous iawn am ein Sialens Llinell Sip, rydyn ni’n meddwl y bydd yn ddiwrnod gwefreiddiol i’n codwyr arian! Os oes gennych chi ddiddordeb mewn creu profiad gwirioneddol cofiadwy wrth godi arian ar gyfer eich elusen GIG, beth am roi cynnig arni?”

I ddarganfod mwy, ewch i: https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/ymgyrchoedd-a-digwyddiadau/sialens-llinell-sip-2025/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here