Cynllun graddedigion Dŵr Cymru yn dychwelyd ar gyfer 2025

0
121

  • Mae 26 o gyfleoedd ar gael i raddedigion ar gyfer 2025 sy’n cwmpasu amrywiaeth o lwybrau gyrfaol
  • Mae 99 o raddedigion wedi cwblhau’r rhaglen ers 2009

Mae Dŵr Cymru, yr unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, yn creu rhagor o gyfleoedd i raddedigion ar gyfer 2025. Mae’r cwmni’n gwahodd ceisiadau i ymuno â’i garfan ddiweddaraf o dalent newydd wrth iddo symud i gyfnod buddsoddi newydd, gyda sialensiau a chyfleoedd sylweddol o’i flaen.

Mae’r rolau’n cwmpasu’r meysydd cyllid, TG, rheoli, peirianneg, gwyddoniaeth ac arolygu meintiau. Ers i’r rhaglen dwy flynedd gychwyn yn 2009, mae rhyw 99 o raddedigion wedi datblygu trwy’r broses, ac mae llawer ohonynt yn dal i weithio dros y cwmni gan feithrin gyrfaoedd llewyrchus.

Mae un o’r graddedigion, Simon George, sydd bellach wedi datblygu i fod yn Bennaeth Mesuryddion Cwsmeriaid gyda’r cwmni, wedi rhannu ei brofiad o’r cynllun â ni. Dywedodd: “Fe astudiais i Ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, ac roeddwn i’n awyddus i gael swydd mewn cwmni lle gallwn ddatblygu fy ngyrfa mewn maes oedd yn gysylltiedig â fy ngradd. Fe es i i ffair graddedigion a chwrdd â chydweithwyr o Ddŵr Cymru a esboniodd fodel y cwmni i mi, roedd hyn o ddiddordeb mawr i mi – felly fe benderfynais i fynd am eu cynllun graddedigion.”

“Roeddwn i wrth fy modd i glywed fy mod i wedi cael fy nerbyn ar y rhaglen – doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd o fy mlaen i, ond mae pethau’n mynd yn dda hyd yn hyn. Ymhlith uchafbwyntiau fy siwrnai mae cwrdd â’r graddedigion eraill, cynnal cynadleddau mawr a chymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian, gan gynnwys ymweld ag Uganda yn rhan o’n partneriaeth â WaterAid.”

“Mae’r gefnogaeth heb ei hail yn Dŵr Cymru. Rydw i wedi gweithio gyda llawer o reolwyr a mentoriaid gwych, ac wedi dysgu llawer gan gydweithwyr â gwybodaeth arbenigol. Rwy’n ddiolchgar iawn am y cymorth rydw i wedi ei gael, ac yn dal i’w gael. Rhoddodd y cynllun graddedigion gymaint o brofiad i mi, ac mae’n ddigon posibl na fyddwn i wedi gallu cael y profiad yna heblaw am y rhaglen. Mae hi wedi fy nghynorthwyo i ddysgu beth rwy’n hoffi ei wneud; a beth dydw i ddim.”

“Pe bawn i’n gallu cynnig un darn o gyngor i raddedigion cyfredol sy’n ystyried ymuno â’r rhaglen, derbyniwch unrhyw sialensiau a chyfleoedd newydd fyddai hynny. Fe ddysgwch chi gymaint am eich hunain, a bydd yn eich cynorthwyo i benderfynu beth rydych chi am ei wneud, a sut y gallai hynny newid dros amser.”

Dywedodd Annette Mason, Pennaeth Talent a Chynhwysiant Dŵr Cymru: “Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o raglenni i raddedigion â’r bwriad o’ch taclu â’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad angenrheidiol i roi hwb i chi ar ddechrau eich gyrfa mewn diwydiant cyffrous ac amrywiol. Fel Pennaeth Talent, rwy’n falch o weld ein cynllun Graddedigion tyfu gan fynd o nerth i nerth.  Mae gennym gyfoeth o dalent yn dod i mewn i’r sefydliad, ac mae hi’n hyfryd gweld yr unigolion hyn yn llewyrchu. Os ydych chi’n berson blaengar ac arloesol â gradd, sydd am wneud gwahaniaeth i bobl ac i’r amgylchedd, byddem wrth ein bodd i glywed gennych.”

Er mwyn ymgeisio ar gyfer rhaglen graddedigion Dŵr Cymru, bydd yr ymgeiswyr yn disgwyl cwblhau neu eisoes wedi cwblhau eu gradd erbyn dechrau’r rhaglen, a bydd ganddynt angerdd clir yn y maes y maent yn ymgeisio amdano. Am fanylion, ewch i: dwrcymru.com/Gyrfaoedd


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle